Y Cynulliad yn eich ardal chi - Gweithdai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngogledd Cymru, 16 Ionawr 2012
Cyhoeddwyd 24/01/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Cynhaliodd Rheolwr Allgymorth y Cynulliad yng ngogledd Cymru weithdai yn ddiweddar o’r enw ‘Ddeall ac ymgysylltu a gwaith y Cynulliad.’
Cafodd y cyntaf ei gynnal yng nghanolfan gymunedol Parkfields, Yr Wyddgrug, a gwahoddwyd aelodau o’r gymuned leol a sefydliadau gwirfoddol i gymryd rhan yn y sesiwn.
Y diwrnod canlynol, cynhaliwyd gweithdy tebyg yng Nghanolfan Cymunedau’n Gyntaf Llangefni, Ynys Môn ar gyfer sefydliadau gwirfoddol lleol.
Cododd sawl pwnc ei ben yn ystod y gweithdai gan gynnwys apwyntiadau meddygol dros y ffin, ail-agor rheilffyrdd a darpariaeth i’r digartref.
Derbyniodd pawb wybodaeth a chyngor ynglŷn â datrys y materion hyn megis cysylltu â’u Haelodau Cynulliad a Phwyllgor Deisebu’r Cynulliad.
Bydd gweithdai eraill yn cael eu cynnal dros y misoedd nesaf gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth a chreu partneriaethau â mudiadau gwirfoddol o bob cwr o’r rhanbarth.
Am fwy o wybodaeth cysyllter â’r Cynulliad ar 0845 010 5500 neu e-bostiwch archebu.cymru@wales.gov.uk