Y Cynulliad yn eich ardal chi - Sioe Deithiol Sir Conwy, 28 Tachwedd 2011

Cyhoeddwyd 01/12/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2011

Cymerodd dîm Allgymorth y Cynulliad yng ngogledd Cymru ran mewn digwyddiad a drefnwyd gan Gyngor Sir Conwy brynhawn Llun 28 Tachwedd 2011. Teitl y digwyddiad oedd ‘Sioe Deithiol Rhannu Arfer Da’ ac fe’i cynhaliwyd yng nghanolfan ieuenctid Bae Colwyn. Bwriad y digwyddiad oedd i bobl alw heibio i ddarganfod mwy am wasanaethau a chyfleoedd gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghonwy. Roedd pawb yn awyddus i ddysgu am waith y Cynulliad Cenedlaethol. Dangosodd rai gryn ddiddordeb yn y broses ddeisebu tra roedd eraill yn dymuno cael mwy o wybodaeth am Fws Allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol. Penderfynodd llawer fynd a holiadur Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 adre gyda hwy i’w dosbarthu i bobl ifanc Sir Conwy.