Y Cynulliad yn eich ardal chi – Wythnos y Senedd

Cyhoeddwyd 08/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/11/2011

Mi fynychodd staff Tîm Allgymorth y Cynulliad ddigwyddiad a gynhaliwyd gan Senedd y DU fore Iau 3 Tachwedd 2011 yn Llandudno. Bwriad y digwyddiad oedd ceisio meithrin gwell ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac ymgysylltiad â Dau Dy’r Senedd. Cafwyd cyflwyniadau ar waith pwyllgorau dethol ac ar y modd y mae Senedd y DU yn craffu ar ddeddfwriaeth. Cafodd pawb wybod sut mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn archwilio materion sy’n dod o dan gyfrifoldeb Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ogystal â chyflwyniad difyr gan Arglwydd Jones KBE. Roedd Bws y Cynulliad Cenedlaethol yno i bobl ddysgu am waith y Cynulliad a sut mae modd iddynt chwarae rhan yng ngwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.