Y Cynulliad yn eich Ardal – Cyflwyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru: Datblygiad Proffesiynol Parhaus, yn y Pierhead, Bae Caerdydd, 13 Mawrth 2012

Cyhoeddwyd 15/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/03/2012

Ar Mawrth 13 cyflwynodd Kevin Davies, Rheolwr Allgymorth Gorllewin De Cymru Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ddigwyddiad ar gyfer cyfreithwyr yn y Pierhead ym Mae Caerdydd. Yn gwmni iddo roedd Gwyn Griffiths, Uwch Gynghorydd Cyfreithiol yn y Cynulliad Cenedlaethol, a bu’r ddau yn amlinellu gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r cyfranogwyr, ynghyd â chlywed eu barn ar ymchwiliad presennol y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru. Diwrnod hyfforddi fel rhan o broses Datblygiad Proffesiynol Parhaus oedd y digwyddiad, wedi’i anelu at gyfreithwyr ar draws de Cymru. Dywedodd Jonathan Cave, Rheolwr Cyswllt gydag ochr fasnachol Lloyds TSB a threfnydd y digwyddiad: “ O’m safbwynt i, roedd yn ddiddorol nad oedd llawer o bobl wedi bod yn y Pierhead o’r blaen, roedd llawer, gan gynnwys fi fy hun, ar y cyfan, yn anwybodus o waith y Cynulliad a heb unrhyw syniad o sut i gyfathrebu â Swyddogion/Pwyllgorau. Rhoddodd ddoe fewnwelediad go iawn a chefais yr argraff fod llawer o bobl wedi gadael â theimlad cadarnhaol iawn am y Cynulliad.” Cafodd ei deimladau eu hadleisio gan un o’r cynrychiolwyr oedd yn bresennol ar y dydd: “Yn fy marn i roedd yr ail bâr o siaradwyr o gymorth mawr, yn gyntaf drwy roi i ni ‘grynodeb gweithredol’ o lle rydym arni gyda’r Cynulliad a pha mor bell mae’r sefydliad wedi symud ymlaen yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn ail drwy gynnig cipolwg ar agweddau mwy dirgel o arferion cyfreithiol yng nghyd-destun newidiadau deddfwriaethol.”