Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd – Gwerthuso ailgylchu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd 26/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/11/2014

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn edrych ar ailgylchu yng Nghymru. Mae Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, yn egluro: ‘Fe wnaeth y Pwyllgor ofyn i bobl ysgrifennu atyn nhw, a gofynnwyd i rai sefydliadau ddod i siarad â nhw mewn cyfarfodydd yn y Senedd. Dros yr haf, aeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru allan i bob rhan o Gymru i weld beth oedd barn pobl am ailgylchu yn eu hardaloedd nhw.’ [youtube https://www.youtube.com/watch?v=-hrGjP50ttc&w=560&h=315] Diben yr ymchwiliad hwn oedd edrych yn fanwl ar arferion a threfniadau ailgylchu gwastraff tai presennol awdurdodau lleol, gan gynnwys y wybodaeth sydd ar gael i bobl a sut mae modd gwella cyfraddau ailgylchu. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o’r ymchwiliad rhwng 9 Mai 2014 a 10 Mehefin 2014. Fe wnaeth y Pwyllgor dderbyn 50 o ymatebion ysgrifenedig gan sefydliadau megis Swyddfa Archwilio Cymru, Dyfodol Diwastraff Cymru a WRAP Cymru. Fe wnaeth y Pwyllgor hefyd glywed gan dros 3,000 o bobl ar draws Cymru trwy holiadur a gafodd ei hyrwyddo gan y tîm Cyfathrebu mewn cyflwyniadau a gweithdai, digwyddiadau rhanbarthol, ymweliadau ag ysgolion ac ymweliadau â’r Senedd. Y prif ganfyddiad oedd bod 98% o’r cyhoedd a 95% o blant a phobl ifanc a lenwodd ein holiaduron yn honni eu bod yn ailgylchu yn eu cartrefi. recycling Diolch i bawb a lenwodd holiaduron ac arolygon ar-lein, a rannodd luniau o ailgylchu yn eu hardaloedd, a drydarodd eu barn ar ailgylchu yng Nghymru neu a ymatebodd mewn nifer o ffyrdd eraill. Mae eich mewnbwn a’ch cyfraniad i waith y Pwyllgor mor bwysig. Mae’r Pwyllgor yn gobeithio cyhoeddi ei adroddiad ar yr ymchwiliad hwn cyn diwedd tymor yr hydref. I gadw golwg ar y datblygiadau diweddaraf o ran yr ymchwiliad hwn edrychwch ar Storify yr Ymchwiliad i Ailgylchu. Gallwch hefyd edrych ar recordiadau YouTube ar gyfer yr Ymchwiliad.