Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn teithio o Fae Caerdydd i Gaerfyrddin

Cyhoeddwyd 27/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Bydd y Pwyllgor Cynulliad sy'n gyfrifol am graffu ar waith y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn archwilio'r strategaeth i leihau tlodi yng Nghymru a materion eraill yn rhanbarth gorllewin Cymru.

blog-header-cy

Bydd Carwyn Jones, y Prif Weinidog, yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ddydd Gwener 17 Chwefror am 11.00 yng Nghanolfan Halliwell, Caerfyrddin.

Beth mae'r pwyllgor yn ei wneud?

Mae gan y Cynulliad sawl pwyllgor sy'n cynnwys Aelodau'r Cynulliad o'r gwahanol bleidiau gwleidyddol i edrych yn fanwl ar wahanol bynciau, h.y. iechyd, addysg a diwylliant. Un o'u swyddogaethau yw ymchwilio i weld a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith da. Maent yn gwneud hyn drwy ofyn am farn y cyhoedd a thrwy gael mewnbwn gan arbenigwyr, elusennau a sefydliadau eraill. Maent hefyd yn mynd ati'n rheolaidd i holi Gweinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet Llywodraeth Cymru. Mae'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cwrdd unwaith bob tymor yn unig, ac (fel y mae'r enw yn ei awgrymu) mae’n edrych ar yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud. Cadeirydd y Pwyllgor yw Ann Jones AC, y Dirprwy Lywydd. Mae pob un o'r Aelodau Cynulliad sy'n aelodau o'r pwyllgor hwn hefyd yn gadeirydd ar bwyllgorau eraill. Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Aelodaeth
Ann Jones AM (Cadeirydd) Llafur Cymru  Jayne Bryant AM Llafur Cymru
Huw Irranca-Davies AM Llafur Cymru Russell George AM Ceidwadwyr Cymreig
John Griffiths AM Llafur Cymru Mike Hedges AM Llafur Cymru
Bethan Jenkins AM Plaid Cymru Dai Lloyd AM Plaid Cymru
Lynne Neagle AM Llafur Cymru Nick Ramsay AM Ceidwadwyr Cymreig
Mark Reckless AM UKIP Cymru David Rees AM Llafur Cymru
 Simon Thomas AM Plaid Cymru
Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud? Prif Weinidog Cymru yw arweinydd Llywodraeth Cymru ac mae'n cael ei benodi gan Ei Mawrhydi'r Frenhines ar ôl iddo gael ei enwebu gan Aelodau'r Cynulliad yn y Senedd. press-conference Mae cyfrifoldebau'r Prif Weinidog yn cynnwys:
  • penodi Cabinet sy'n ffurfio Llywodraeth Cymru;
  • cadeirio cyfarfodydd y Cabinet;
  • arwain ar ddatblygu a chyflwyno polisïau;
  • rheoli'r cysylltiadau â gweddill y DU a chysylltiadau rhyngwladol;
  • cynrychioli pobl Cymru ar fusnes swyddogol, a
  • staff Llywodraeth Cymru.

Beth fydd yn cael ei drafod gan y Pwyllgor y tro hwn?

Yn y cyfarfod hwn, bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar weledigaeth a dulliau gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau tlodi yng Nghymru. Darllenwch fwy am y mater. Hoffai'r Pwyllgor hefyd drafod materion pwysig eraill yn rhanbarth gorllewin Cymru. Os oes mater yr ydych am iddo gael ei drafod, gallwch awgrymu pwnc trafod ymlaen llaw.

Sut gallaf wylio?

statue-blog

Mae croeso i chi ddod i wylio trafodion y Pwyllgor. Cysylltwch â ni drwy ein llinell archebu. Os ydych yn byw yng Nghaerfyrddin neu yng ngorllewin Cymru, gallwch hefyd awgrymu pwnc trafod ymlaen llaw.

Os na allwch fod yno eich hun, bydd modd gwylio'r cyfarfod yn fuan iawn wedyn ar Senedd.tv.

Tlodi yng Nghymru – trosolwg

Mae gan Gymru un o'r cyfraddau tlodi uchaf yn y DU. Canfu adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree fod tlodi yn costio £3.6 biliwn y flwyddyn i Gymru, a bod bron chwarter o boblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi. Yr her i Lywodraeth Cymru yw sut i leihau tlodi o gofio mai San Steffan sy’n penderfynu ar y rhan fwyaf o drethi, cyfraith cyflogaeth a budd-daliadau lles.

Rhaglen diwygio lles Llywodraeth y DU hop Llywodraeth y DU sy'n rheoli penderfyniadau ynghylch gwariant lles yng Nghymru. Mae Cymru yn fwy dibynnol ar wariant lles na gwledydd eraill y DU, felly mae newidiadau i fudd-daliadau mewn gwaith ac allan o waith yn cael mwy o effaith. Dysgwch fwy am raglen diwygio lles Llywodraeth y DU. Datganoli rhai pwerau trethu a lles i Gymru houses Yn 2018, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio pwerau codi trethi newydd a roddir gan San Steffan i gyflwyno'r Dreth Trafodiadau Tir (sy'n cyymryd lle'r Dreth Stamp) a threth ar safleoedd tirlenwi. Hefyd, mae Trysorlys y DU wedi datgan y gallai Llywodraeth Cymru amrywio cyfraddau treth incwm yng Nghymru o fis Ebrill 2019. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae rhai budd-daliadau lles (fel elfennau dewisol y Gronfa Gymdeithasol) wedi cael eu datganoli i Gymru. Brexit eu Mae'r UE wedi rhoi £4 biliwn mewn cyllid strwythurol i Gymru er 2000. Ardaloedd yn ne Cymru a gorllewin Cymru sydd wedi cael y gyfran fwyaf. Dysgwch fwy am Gronfeydd Strwythurol yr UE. Effeithiolrwydd a gwerth am arian rhaglenni hirdymor Llywodraeth Cymru town Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried a ddylid dod â Cymunedau yn Gyntaf i ben, sef ei phrif raglen lleihau tlodi, a lansiwyd yn 2001. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar 52 o ardaloedd unigol yng Nghymru a dywedodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, nad oedd wedi'i argyhoeddi mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni dros Gymru. Gwell ymchwil ynghylch tlodi, a sut y gall llywodraethau ei atal neu ei liniaru books Mae ein dealltwriaeth o dlodi yn newid. Mae angen tystiolaeth dda, sy'n cydnabod profiadau unigolion o dlodi, er mwyn llunio ymyriadau llwyddiannus a rhaglenni wedi'u targedu'n dda.  Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wbofg Daw cyfraith newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i rym ym mis Ebrill 2016. Nod y Ddeddf yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru.

Sylw ar orllewin Cymru

wwcastle

Rydym am glywed eich barn! Pa faterion sydd fwyaf pwysig yn eich ardal chi? Gallwch drydar awgrymiadau atom ni @CynulliadCymru, gadael sylw ar ein tudalen Facebook neu e-bostio'r pwyllgor yn uniongyrchol CraffuPW@Cynulliad.Cymru.

Rydym yn gobeithio y gallwch ymuno â ni i wylio'r cyfarfod neu ei wylio wedyn ar Senedd.tv.

Gallwch gysylltu â'r Aelodau Cynulliad sy'n eich cynrychioli ar unrhyw adeg. Yn ogystal, gallwch gyflwyno deiseb i'r Cynulliad. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan y Cynulliad.