Bydd y Pwyllgor Cynulliad sy'n gyfrifol am graffu ar waith y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn archwilio'r strategaeth i leihau tlodi yng Nghymru a materion eraill yn rhanbarth gorllewin Cymru.
Bydd Carwyn Jones, y Prif Weinidog, yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ddydd Gwener 17 Chwefror am 11.00 yng Nghanolfan Halliwell, Caerfyrddin.
Beth mae'r pwyllgor yn ei wneud?
Mae gan y Cynulliad sawl pwyllgor sy'n cynnwys Aelodau'r Cynulliad o'r gwahanol bleidiau gwleidyddol i edrych yn fanwl ar wahanol bynciau, h.y. iechyd, addysg a diwylliant. Un o'u swyddogaethau yw ymchwilio i weld a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith da. Maent yn gwneud hyn drwy ofyn am farn y cyhoedd a thrwy gael mewnbwn gan arbenigwyr, elusennau a sefydliadau eraill. Maent hefyd yn mynd ati'n rheolaidd i holi Gweinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet Llywodraeth Cymru. Mae'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cwrdd unwaith bob tymor yn unig, ac (fel y mae'r enw yn ei awgrymu) mae’n edrych ar yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud. Cadeirydd y Pwyllgor yw Ann Jones AC, y Dirprwy Lywydd. Mae pob un o'r Aelodau Cynulliad sy'n aelodau o'r pwyllgor hwn hefyd yn gadeirydd ar bwyllgorau eraill. Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - AelodaethAnn Jones AM (Cadeirydd) Llafur Cymru | Jayne Bryant AM Llafur Cymru |
Huw Irranca-Davies AM Llafur Cymru | Russell George AM Ceidwadwyr Cymreig |
John Griffiths AM Llafur Cymru | Mike Hedges AM Llafur Cymru |
Bethan Jenkins AM Plaid Cymru | Dai Lloyd AM Plaid Cymru |
Lynne Neagle AM Llafur Cymru | Nick Ramsay AM Ceidwadwyr Cymreig |
Mark Reckless AM UKIP Cymru | David Rees AM Llafur Cymru |
Simon Thomas AM Plaid Cymru |

- penodi Cabinet sy'n ffurfio Llywodraeth Cymru;
- cadeirio cyfarfodydd y Cabinet;
- arwain ar ddatblygu a chyflwyno polisïau;
- rheoli'r cysylltiadau â gweddill y DU a chysylltiadau rhyngwladol;
- cynrychioli pobl Cymru ar fusnes swyddogol, a
- staff Llywodraeth Cymru.
Beth fydd yn cael ei drafod gan y Pwyllgor y tro hwn?
Yn y cyfarfod hwn, bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar weledigaeth a dulliau gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau tlodi yng Nghymru. Darllenwch fwy am y mater. Hoffai'r Pwyllgor hefyd drafod materion pwysig eraill yn rhanbarth gorllewin Cymru. Os oes mater yr ydych am iddo gael ei drafod, gallwch awgrymu pwnc trafod ymlaen llaw.Sut gallaf wylio?

Mae croeso i chi ddod i wylio trafodion y Pwyllgor. Cysylltwch â ni drwy ein llinell archebu. Os ydych yn byw yng Nghaerfyrddin neu yng ngorllewin Cymru, gallwch hefyd awgrymu pwnc trafod ymlaen llaw.
Os na allwch fod yno eich hun, bydd modd gwylio'r cyfarfod yn fuan iawn wedyn ar Senedd.tv.
Tlodi yng Nghymru – trosolwg
Mae gan Gymru un o'r cyfraddau tlodi uchaf yn y DU. Canfu adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree fod tlodi yn costio £3.6 biliwn y flwyddyn i Gymru, a bod bron chwarter o boblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi. Yr her i Lywodraeth Cymru yw sut i leihau tlodi o gofio mai San Steffan sy’n penderfynu ar y rhan fwyaf o drethi, cyfraith cyflogaeth a budd-daliadau lles.
Rhaglen diwygio lles Llywodraeth y DU





Sylw ar orllewin Cymru

Rydym am glywed eich barn! Pa faterion sydd fwyaf pwysig yn eich ardal chi? Gallwch drydar awgrymiadau atom ni @CynulliadCymru, gadael sylw ar ein tudalen Facebook neu e-bostio'r pwyllgor yn uniongyrchol CraffuPW@Cynulliad.Cymru.
Rydym yn gobeithio y gallwch ymuno â ni i wylio'r cyfarfod neu ei wylio wedyn ar Senedd.tv.