Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cyfarfod â swyddogion cyfatebol yn Iwerddon

Cyhoeddwyd 05/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/01/2015

blog1 Cyfarfod â John McGuinness TD, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Dáil Ddydd Mercher 19 Tachwedd 2014, aeth pedwar Aelod o Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol i Ddulyn i gyfarfod â swyddogion cyfatebol yn y Dáil Éireann – fel rhan o waith parhaus y Pwyllgor o wella’i ffordd o weithio. Aeth Archwilydd Cyffredinol Cymru gyda nhw; bydd yn cyfarfod â Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol Iwerddon yn rheolaidd. Y Dáil a Seanad Éireann yw Dau Dŷ’r Oireachtas, sy’n cyfarfod yn Leinster House. Ar ôl cyrraedd Dulyn, cyfarfu gwleidyddion y ddwy wlad yn Leinster House i weithio dros ginio ac i rannu profiadau a blaenoriaethau gyda’r Teachtaí Dála a oedd yn aelodau o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Ddydd Iau 20 Rhagfyr, dychwelodd yr Aelodau i Leinster House i gynnal cyfarfod preifat gyda’r Pwyllgor, cyn gwylio’r Pwyllgor yn cyfarfod mewn sesiwn gyhoeddus. Cawsant eu tywys o amgylch Leinster House, a chawsant gyflwyniad i’r modd y mae Dau Dŷ’r Oireachtas yn gweithredu. Yn ystod y trafodaethau rhwng y ddau Bwyllgor, daeth themâu cyffredin yn eu gwaith, a’r prif heriau a oedd yn eu hwynebu, i’r amlwg. Roedd y ddau Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn debyg mewn nifer o ffyrdd – aelod o’r wrthblaid sy’n cadeirio’r ddau Bwyllgor a hynny’n ôl traddodiad, yn hytrach na statud yn Iwerddon – yn ogystal â Chymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gwariant cyhoeddus wedi gostwng yn arw yn Iwerddon, sy’n golygu bod cyfrifoldeb Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Dáil i sicrhau gwerth am arian yn bwysicach, ac yn anoddach, nag erioed. Er bod maint y toriadau yn y ddwy wlad yn wahanol, ond roedd Aelodau’r Cynulliad a’r Teachtaí Dála i gyd yn cydnabod disgwyliadau cynyddol y cyhoedd i wario arian y trethdalwyr yn ddarbodus ac yn briodol. Roedd gan y Teachtaí Dála ddiddordeb yn y ffaith bod Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnal ei ymgynghoriadau ei hun yn ddiweddar, yn ogystal â’r rheini a gaiff eu cynnal yn sgil astudiaethau Gwerth am Arian yr Archwilydd Cyffredinol – er enghraifft, cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ar ei ymchwiliad i Dâl Uwch Reolwyr yn gynharach ym mis Tachwedd. Roedd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Dáil yn awyddus i ymgymryd â gwaith tebyg ond nid oedd wedi gallu gwneud hynny o dan eu rheolau sefydlog presennol. Bydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn rhoi rhagor o wybodaeth am y rhaglen waith newydd hon i helpu eu cydweithwyr i ehangu eu gwaith.   blog2 Cyfarfod â John McGuinness TD, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Dáil