Cyhoeddwyd 06/01/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/01/2015
Ym mis Rhagfyr 2014, aeth pedwar aelod o'r Pwyllgor, sef Jocelyn Davies, Cadeirydd y Pwyllgor, Alun Ffred Jones, Christine Chapman a Julie Morgan, i ymweld â'r Alban i weld beth yw'r newidiadau cyllidol sy'n digwydd yno –
Bydd Bil Cymru, sy'n cael ei ystyried gan Senedd y DU ar hyn o bryd, yn rhoi pwerau trethu a benthyca newydd i'r Cynulliad. Gan fod y pwerau hyn yn debyg i'r model yn Neddf yr Alban 2012, penderfynodd
Pwyllgor Cyllid y Cynulliad ymweld â Senedd yr Alban i gael gwybod mwy am ddatganoli trethi, casglu trethi a newidiadau cyllidebol yn sgil Deddf yr Alban.
Bydd y pŵer a ddatganolir i Gymru yn cynnwys treth dir y doll stamp a'r dreth dirlenwi, ac (yn amodol ar refferendwm), rhai pwerau treth incwm. Bydd y Bil hefyd yn rhoi mwy o bwerau benthyca i'r Cynulliad.
Cyfarfod ag Aelodau Pwyllgor Cyllid yr Alban a Gwasanaeth Ymchwil Senedd yr Alban

Roedd cyfarfod cyntaf yr Aelodau â'r Aelodau cyfatebol yn yr Alban, gan gynnwys Kenneth Gibson, Cynullydd (gyfwerth â'r Cadeirydd), Malcolm Chisholm a Jean Urquhart. Dysgodd yr Aelodau fwy am broses gyllidebol yr Alban a thrafodwyd y newidiadau a wnaed yn yr Alban ers pasio Deddf yr Alban.
Cafodd y Pwyllgor hefyd drafodaethau anffurfiol â Gwasanaeth Ymchwil Senedd yr Alban, sy'n rhoi cymorth i Aelodau o Bwyllgor Cyllid yr Alban.
Yn y prynhawn, cafodd yr Aelodau gwrdd â John Swinney MSP, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Cyfansoddiad a'r Economi, a Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth. Yn dilyn hyn, cafwyd trafodaeth anffurfiol â swyddogion Llywodraeth yr Alban a oedd wedi gweithio ar ddeddfwriaeth treth amrywiol yn yr Alban. 
Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
“Mae'r ymweliad wedi bod yn llawn gwybodaeth ar gyfer ein paratoadau ar gyfer gwaith yn y dyfodol ar ddatganoli treth. Mae'n bwysig myfyrio ar brofiad yr Alban yn ystod y cyfnod pwysig hwn o ddatganoli cyllidol.”
Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf
Tudalen hafan y Pwyllgor i gael gwybodaeth am ymchwiliadau cyfredol a deddfwriaeth y mae'r Pwyllgor yn ei ystyried.
Dilynwch
@SeneddCyllid i gael y wybodaeth ddiweddaraf