Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: edrych yn ôl dros y pum mlynedd ddiwethaf

Cyhoeddwyd 26/08/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/08/2015

DavidReesAM David Rees ydw i, ac rwy'n Gadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad. Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn grŵp o 10 Aelod Cynulliad o bob rhan o Gymru sy’n cynrychioli’r pedair plaid wleidyddol sy’n ffurfio'r Cynulliad. Ers 2011, rydym wedi bod yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gan y bydd gwaith y Pwyllgor yn dod i ben cyn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf (pan fydd pobl yng Nghymru yn dewis pwy fydd yn eu cynrychioli dros y pum mlynedd nesaf), rydym yn edrych yn ôl dros y pum mlynedd diwethaf, ac rydym eisiau gwybod beth yw eich barn. Hoffem glywed sylwadau gan bawb; y rhai sydd wedi gweithio'n agos gyda ni, y rhai nad ydynt erioed wedi ymgysylltu â ni, a phawb yn y canol. Rydym yn casglu barn pobl ledled Cymru ar y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys ein ffordd o weithio, y gwaith rydym wedi'i wneud, a'r effaith a gafodd ein gwaith. Rydym hefyd yn awyddus i glywed am yr heriau allweddol ar gyfer maes iechyd a gofal cymdeithasol yn y pum mlynedd nesaf. Ar sail hynny, gan feddwl am y pum mlynedd diwethaf:
  • Sut rydym wedi cael effaith ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?
  • Beth fu ein cyflawniad mwyaf?
  • Pe gallem fod wedi gwneud un peth yn wahanol, beth fyddai hwnnw?
  • A ydym wedi taro cydbwysedd cywir rhwng craffu ar bolisi, cyllid a deddfwriaeth?
Gan feddwl ymlaen at y pum mlynedd nesaf:
  • Beth yn eich barn chi fydd y tair her mwyaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?
Felly, os oes gennych farn ar y cwestiynau hyn, mae ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad  ar gael ar-lein, neu e-bostiwch SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru. Rydym am glywed gan bobl o bob rhan o Gymru. Drwy rannu eich barn gyda ni, fe allwn ystyried ein gwaith, a pha effaith a gafodd ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gwnewch yn siŵr fod eich ymateb gyda ni cyn 25 Medi 2015. Beth fydd yn digwydd wedyn? Byddwn yn ystyried pob ymateb pan fyddwn yn trafod ein hetifeddiaeth, a byddwn yn cyhoeddi ein casgliadau cyn diwedd y Cynulliad. Ble allwch chi gael rhagor o wybodaeth?