Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol – gwaith ar gyfer tymor yr hydref 2014

Cyhoeddwyd 21/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/10/2014

Mae'r hydref hwn yn dymor prysur i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda nifer o brosiectau pwysig ar y gweill. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith ar sylweddau seicoweithredol newydd (a adwaenir yn gyffuriau penfeddwol cyfreithlon); Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010; ac ymchwiliadau dilynol ar feysydd iechyd a gofal cymdeithasol sy'n effeithio ar bobl Cymru. Daeth ymgynghoriad y Pwyllgor ar sylweddau seicoweithredol newydd (cyffuriau penfeddwol cyfreithlon) i ben yr wythnos diwethaf. Mae'r mater pwysig hwn wedi cael cryn sylw yn y cyfryngau yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae'r ymchwiliad wedi ceisio casglu sylwadau a barn pobl Cymru. Er mwyn llywio'r ymchwiliad, bu'r Pwyllgor yn ymweld â rhannau o ogledd a de Cymru i siarad â chyn-ddefnyddwyr yn ogystal â darparwyr gwasanaethau ar effaith y sylweddau hyn. IMG_8789 IMG_1286 http://www.youtube.com/watch?v=wgOuHWHg4G0 Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Mae wedi bod o fudd mawr i ni fel Pwyllgor i gael y cyfle hwn i siarad â phobl sy'n gweithio ar y rheng flaen, ac sy'n gyfarwydd â'r materion sy'n ymwneud â'r defnydd o'r sylweddau hyn. Yr ydym yn awr yn edrych ymlaen at glywed mwy o dystiolaeth ar y mater pwysig hwn ym mis Tachwedd cyn cyflwyno argymhellion yn y flwyddyn newydd". Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth lafar ddydd Iau 6 Tachwedd a dydd Mercher 12 Tachwedd, a bydd y materion a godwyd yn ystod yr ymchwiliad yn cael eu cyflwyno i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddydd Mercher 26 Tachwedd. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wylio cyfarfodydd y pwyllgor isod. Rhagor o wybodaeth ar yr ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon") Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar ei ymchwiliad i'r cynnydd a wnaed hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru ar 16 Hydref. Yn ystod yr ymchwiliad, cynhaliodd y Pwyllgor grwpiau ffocws gyda chleifion canser a phobl eraill sydd â phrofiad uniongyrchol o wasanaethau canser yng Nghymru. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r dystiolaeth a glywodd y Pwyllgor, ac yn nodi ei ganfyddiadau a'i argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad wedi'i gyhoeddi ar wefan y Pwyllgor, a gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael gwybod mwy ddilyn hanes yr ymchwiliad ar Storify hefyd. storify_HSC Rhagor o wybodaeth ar yr ymchwiliad i'r cynnydd a wnaed hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru Mae'r Pwyllgor wedi ymrwymo i wneud gwaith dilynol ar yr argymhellion a wneir ganddo yn dilyn ei ymchwiliadau er mwyn gweld pa ddatblygiadau a chynnydd a wnaed.   Y tymor hwn mae'r Pwyllgor wedi cynnal sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Swyddog Fferyllol Cymru i drafod yr hyn a ddilynodd o'i ymchwiliad ar y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd. Adroddodd y Pwyllgor ar ei ymchwiliad gwreiddiol ym mis Mai 2012, ac mae yn awr yn bwriadu ysgrifennu at y Gweinidog gydag argymhellion pellach. Rhagor o wybodaeth ar yr ymchwiliad dilynol i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd Bydd y Pwyllgor hefyd yn gwneud gwaith dilynol ar ei ymchwiliad i farw-enedigaethau yng Nghymru. Adroddodd y Pwyllgor ar yr ymchwiliad un-dydd hwn ym mis Chwefror 2013, ac ysgrifennodd yn ddiweddar at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am adroddiad ar y cynnydd a wnaed. Mae ymateb y Gweinidog yn datgan, er gwaethaf y cynnydd a wnaed ar ymgysylltiad staff clinigol, bod gwaith pellach eto i'w wneud i weithredu holl argymhellion y Pwyllgor yn llawn. Bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu yn fuan at bawb a roddodd dystiolaeth yn yr ymchwiliad gwreiddiol. Bydd y Pwyllgor hefyd yn cynnal nifer o sesiynau craffu yn ystod y tymor hwn, gan gynnwys sesiwn gyda'r Prif Swyddog Meddygol ddydd Mercher 22 Hydref, a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar 26 Tachwedd. Bydd hefyd yn cael sesiwn friffio ar weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar 20 Tachwedd. Os hoffech drefnu sedd i weld unrhyw un o gyfarfodydd y Pwyllgor, cysylltwch â’r tîm archebu ar 0845 010 5500 / 01492 523 200 neu archebu@cymru.gov.uk. Gallwch hefyd weld cyfarfodydd y Pwyllgor ar sianel ddarlledu’r Cynulliad, Senedd.tv. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am waith y Pwyllgor hwn, beth am ddilyn y diweddaraf ar ei ffrwd Twitter? Dilynwch @SeneddIechyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf.