Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau

Cyhoeddwyd 01/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2014

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi lansio ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau yng Nghymru. Ynglŷn â beth mae ymchwiliad y Pwyllgor? Yn ddiweddar, mae'r Pwyllgor wedi gwneud rhywfaint o waith ar sylweddau seicoweithredol newydd, neu "gyffuriau penfeddwol cyfreithlon". Bydd yn cyhoeddi adroddiad yn y flwyddyn newydd a fydd yn nodi ei gasgliadau a'i argymhellion i Lywodraeth Cymru. Yn ystod yr ymchwiliad hwn, mae'r Pwyllgor wedi bod yn clywed am yr effaith y gall sylweddau seicoweithredol newydd ei chael ar bobl. Mae'r Aelodau yn gwybod y gall camddefnyddio alcohol a sylweddau gael effaith ddifrifol iawn ar bobl, ac maen nhw eisiau adeiladu ar eu gwaith cyfredol ar sylweddau seicoweithredol newydd drwy edrych ar gamddefnyddio alcohol a sylweddau yng Nghymru. Fel rhan o'r ymchwiliad, mae'r Aelodau eisiau gwybod:
  • am yr effaith y mae camddefnyddio alcohol a sylweddau yn ei chael ar bobl yng Nghymru;
  • pa mor effeithiol yw'r ymdrechion i fynd i'r afael a'r materion yma ar hyn o bryd; ac
  • a yw'r gwasanaethau lleol cywir ar gael ledled Cymru i helpu pobl a gwneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r niwed posibl.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David Rees AC: "Mae camddefnyddio alcohol a sylweddau yn gallu cael effaith ddinistriol ar unigolion, eu teuluoedd a'u cymunedau. Rydym eisiau gwybod beth sy'n gwneud i bobl ddefnyddio cyffuriau neu alcohol, ac a yw'r dull gweithredu cenedlaethol a'r gwasanaethau lleol cywir ar waith i godi ymwybyddiaeth a rhoi cymorth i bobl pan fydd ei angen arnynt." http://www.youtube.com/watch?v=cgIB_K0ZrUA Sut gallwch chi ddweud wrthyn ni beth rydych chi'n ei feddwl? Er mwyn llywio'r ymchwiliad, mae'r Pwyllgor eisiau clywed gan bobl ar hyd a lled Cymru. Bydd rhannu eich barn gyda'r Pwyllgor yn cynorthwyo'r Aelodau i sicrhau y gallan nhw ystyried sut y mae camddefnyddio alcohol a sylweddau yn effeithio ar bobl ar lawr gwlad yng Nghymru o ddydd i ddydd. Mae tair ffordd y gallwch gyfrannu i'r ymchwiliad:
  • ysgrifennwch neu anfonwch e-bost at y Pwyllgor â'ch barn ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad.
Rhaid i ni gael pob ymateb erbyn 9 Ionawr 2015. Beth fydd yn digwydd wedyn? Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr holl ymatebion ysgrifenedig, ac yn trefnu sesiynau tystiolaeth lafar ffurfiol gyda sefydliadau allweddol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd. Unwaith i'r Pwyllgor gymryd tystiolaeth, bydd yn ysgrifennu ac yn cyhoeddi adroddiad sy'n gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru. Ble gallwch chi ddarganfod rhagor o wybodaeth? Os hoffech ragor o wybodaeth am yr ymchwiliad: Os yw camddefnyddio alcohol neu sylweddau wedi effeithio arnoch chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod, neu os hoffech ragor o wybodaeth, gallwch gysylltu â DAN 24/7 i gael cyngor. Mae DAN 24/7 yn llinell gymorth gyfrinachol rhad ac am ddim i unrhyw un yng Nghymru sy'n dymuno cael gwybodaeth ychwanegol neu help ynglŷn â chyffuriau neu alcohol. Rhadffôn: 0808 808 2234 neu anfonwch neges destun i DAN: 81066 www.dan247.org.uk