Cyhoeddwyd 26/09/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/09/2014
Cynhaliodd y
Pwyllgor Menter a Busnes ei gyfarfod cyntaf yn nhymor yr hydref ymhell o Fae Caerdydd yr wythnos diwethaf.

Roedd ymweliad y Pwyllgor â
Cheudyllau Llechi Llechwedd yn rhan o’r ymchwiliad i dwristiaeth. Yn dilyn digwyddiadau tebyg yn Oriel y Parc, Sir Benfro a’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, daeth y digwyddiad hwn â busnesau o’r sector twristiaeth yn yr ardal ynghyd, gan gynnwys cynrychiolwyr o Zipworld a Phortmeirion, i drafod eu syniadau ynghylch polisi Llywodraeth Cymru a chynnydd o ran twf twristiaeth yng Nghymru.
Rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i dwristiaeth
Roedd hwn yn ddechrau cadarnhaol a rhagweithiol i dymor newydd y Pwyllgor, sydd â nifer o brosiectau yn mynd rhagddo neu sydd ar fin cychwyn. Mae’r Pwyllgor wrthi’n cynllunio ymchwiliad sy’n ceisio helpu pobl ifanc a phobl hŷn i’r gwaith, a fydd yn agored ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan. Mae aelodau’r Pwyllgor yn edrych ymlaen at glywed syniadau a phrofiadau pobl ifanc a phobl hŷn yng Nghymru, felly cofiwch gadw llygad allan am yr ymgynghoriad hwn.
Un o gyfarfodydd pwysig y Pwyllgor fydd sesiwn graffu ar gyllido a darparu system trydaneiddio rheilffyrdd yn y de gydag Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Trefnwyd y sesiwn hon ar gyfer bore
2 Hydref. Un sesiwn graffu bwysig arall fydd ar
8 Hydref a fydd yn edrych ar Sectorau Blaenoriaeth Economaidd Llywodraeth Cymru, er y gallai’r dyddiad newid felly cofiwch edrych ar yr agenda yn agosach at y dyddiad. Bydd Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, a Chadeiryddion y Panelau Sector yn bresennol yn y cyfarfod i ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.
Rhagor o wybodaeth am Sectorau Blaenoriaeth Economaidd Llywodraeth Cymru.
Mae’r tymor yn parhau i edrych yn brysur i’r Pwyllgor Menter a Busnes, gyda chyfarfod ar gynnydd cyflwyno
Cyflymu Cymru gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i drefnu ar gyfer 10 Rhagfyr 2014.
Os hoffech drefnu sedd i weld unrhyw un o gyfarfodydd y Pwyllgor, cysylltwch â’r tîm archebu ar 0845 010 5500 / 01492 523 200 neu
archebu@cymru.gov.uk. Gallwch hefyd weld y Pwyllgor drwy sianel ddarlledu’r Cynulliad,
Senedd.tv.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am waith y Pwyllgor, beth am ddilyn y diweddaraf ar ei ffrwd Twitter? Dilynwch
@SeneddBusnes i gael y diweddaraf.