Y Pwyllgor Menter a Busnes - Ymchwiliad i Dwristiaeth (06/10/2014)

Cyhoeddwyd 06/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/10/2014

Yr wythnos diwethaf, cyfarfu cynrychiolwyr o atyniadau twristiaeth ledled gogledd Cymru ag aelodau Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru i drafod eglurder a chryfder "brand" twristiaeth Cymru, effeithiolrwydd ymdrechion Llywodraeth Cymru i wneud y mwyaf o werth y marchnadoedd twristiaeth ddomestig a ryngwladol, a pherfformiad Croeso Cymru o'i gymharu ag asiantaethau datblygu twristiaeth yng ngweddill y DU. Hwn oedd y trydydd digwyddiad o'i fath; cafodd y ddau gyntaf eu cynnal yng Nghaerdydd a Sir Benfro. Cyfarfu cynrychiolwyr o'r Sŵ Fynydd Gymreig, Antur Stiniog, Portmeirion, Zipworld, Tŷ Bwyta Marram Grass, Atyniadau Eryri, Llechwedd, y Gynghrair Cefn Gwlad, Cadw a Pharc Glasfryn gydag Aelodau'r Cynulliad a oedd yn cynrychioli'r Pwyllgor mewn digwyddiad grŵp ffocws a gynhaliwyd yn Ogofâu Llechi Llechwedd, Blaenau Ffestiniog. https://www.flickr.com/photos/nationalassemblyforwales/sets/72157647368938709/ Rhannwyd y cyfranogwyr a'r Aelodau'n dri grŵp trafod ar wahân, a bu William Graham AC, Joyce Watson AC, Rhun Ap Iorwerth AC, Keith Davies AC, Mick Antoniw AC a Suzy Davies AM yn hwyluso'r trafodaethau. Cafwyd trafodaeth am 45 munud a sesiwn adborth fer ar y diwedd. Rhannodd William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor, a Rhun Ap Iorwerth AC rai o'r pwyntiau a drafodwyd yn eu grwpiau a nodi camau nesaf y Pwyllgor yn yr ymchwiliad. [youtube https://www.youtube.com/watch?v=TMskoliGd7k] [youtube https://www.youtube.com/watch?v=QC7ICVPMcfY] Rhannodd Michael Bewick o gwmni llechi J W Greaves y pwyntiau a drafodwyd yn eu grŵp a nododd yr hyn yr hoffai weld y Pwyllgor yn argymell yn ei adroddiad i Lywodraeth Cymru. [youtube https://www.youtube.com/watch?v=R4b6WaHfrsw] Ar ôl y trafodaethau grŵp, cafodd y cyfranogwyr ac Aelodau'r Cynulliad daith o amgylch Ogofâu Llechi Llechwedd, gan weld Zip World Titan, Bounce Below a Ogofâu Llechi traddodiadol. 098 Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad ar gael yma: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=9531 Byddwch yn gallu gweld yr adroddiad yma ar ôl i'r Pwyllgor ei gyhoeddi: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=9531&Opt=0