Cyhoeddwyd 28/07/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/07/2014
Cafodd cynrychiolwyr o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru gyfle i gyfarfod ag Aelodau'r Cynulliad i drafod ac asesu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru tuag at gyflawni ei ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu sy'n ymwneud â thwristiaeth. Roedd hyn yn rhan o
Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Dwristiaeth

Cafodd y digwyddiadau, a gynhaliwyd yn Oriel y Parc yn Nhyddewi ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, eu rhannu'n ddwy drafodaeth, gyda syniadau a barn y ddau grŵp yn cael eu rhannu ar Bord Twitter.
Cafodd y drafodaeth yn Oriel y Parc ei hwyluso gan Joyce Watson AC, Suzy Davies AC a Julie Morgan AC, a'r drafodaeth yng Nghaerdydd ei hwyluso gan Keith Davies AC, William Graham AC ac Eluned Parrott AC.

Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar (ond ddim wedi'u cyfyngu i) y themâu a ganlyn:
- Eglurder a chryfder "brand" twristiaeth Cymru;
- Effeithiolrwydd ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynyddu gwerth y farchnad dwristiaeth ddomestig a rhyngwladol;
- Perfformiad Croeso Cymru o gymharu ag asiantaethau datblygu twristiaeth yng ngweddill y DU;
- Gwaith Visit Britain mewn perthynas â Chymru, ac i ba raddau y mae Visit Britain a Croeso Cymru yn cydweithredu;
- I ba raddau y mae marchnata a datblygu twristiaeth yng Nghymru yn gwneud y mwyaf o asedau diwylliannol, hanesyddol a naturiol Cymru; ac
- Effaith digwyddiadau mawr ar economi twristiaeth Cymru, a llwyddiant ymdrechion Llywodraeth Cymru i fanteisio i'r eithaf arnynt.

Cafwyd trafodaeth grŵp am 45 munud a sesiwn adborth fer ar y diwedd.
Caiff nodyn am brif bwyntiau trafod y digwyddiadau ei gyhoeddi cyn bo hir ar y linc
yma.
Gallwch wylio sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor ar
www.Senedd.tv.
Mae'r Pwyllgor yn gobeithio cynhyrchu adroddiad gydag argymhellion i Lywodraeth Cymru yn y tymor nesaf, wedi iddynt gyfarfod â chynrychiolwyr o'r diwydiant twristiaeth yng Ngogledd Cymru. Bydd casgliadau'r digwyddiadau yn sail i'r adroddiad a'r argymhellion. Cewch weld yr adroddiad llawn
yma pan fydd wedi'i gwblhau.