Y Sioe Frenhinol 2017

Cyhoeddwyd 21/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/07/2017

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd rhwng 24-27 Gorffennaf gyda rhaglen newydd o ddigwyddiadau, a chyfle i'r cyhoedd gyfarfod ag Aelodau a staff y Cynulliad a chael gwybod mwy am ein gwaith. Byddwn yn y Pafiliwn Gwyrdd, ac mae croeso i bawb ymweld â'n stondin i roi eich barn ac opsiynau ar ein gwaith.

Yn digwydd drwy gydol yr wythnos

Ar y stondin

P'un a ydych yn gyfarwydd â'n gwaith ai peidio, erbyn diwedd eich ymweliad â stondin y Cynulliad byddwch wedi dysgu rhywbeth newydd amdanom ni a'r hyn rydym yn ei wneud. Mwynhewch baned a dysgu am eich Aelodau Cynulliad, sut y maent yn eich cynrychioli chi a sut y gallwch gysylltu â hwy i fynegi eich barn a'ch pryderon. Gallwch gael gwybod mwy am ein hymholiadau presennol a'n gwaith sydd ar y gweill a allai fod o ddiddordeb i chi neu eich cymuned.

I blant

Tra bod rhieni yn cael hoe, gall plant gymryd rhan mewn gwahanol gemau a gweithgareddau o amgylch y stondin i'w helpu i ddysgu mwy am yr hyn rydym yn ei wneud. Byddant yn gallu dod i wybod am ddeddfu a rhoi cynnig ar bleidleisio dros y diddordebau a'r gweithgareddau sy'n bwysig iddyn nhw. Mae yna hefyd gemau i'w chwarae a lliwio ar gyfer ymwelwyr iau.

Dywedwch wrthym beth sy'n eich gwneud yn falch o Gymru

Rydym yn ymfalchïo yn ein gwlad. Ein hanes, ein diwylliant, ein harwyr, ein hiaith, ein tir - ein cartref. Yn bennaf oll rydym yn falch i'ch cynrychioli chi, bobl Cymru, ac i wneud penderfyniadau a chreu deddfau a fydd yn llunio dyfodol bywyd Cymru. Rydym am i chi ddweud wrthym beth ydych yn ei garu fwyaf am fywyd yng Nghymru a'r hyn sy'n eich gwneud chi'n falch. Rhannwch eich barn gyda ni ar y stondin neu dywedwch wrthym ar Twitter gan ddefnyddio #fyNghymru.

Sesiynau a Digwyddiadau

Dydd Mercher 26 Gorffennaf

09.00-10.00 Digwyddiad Brecwast Llais Cryfach i Gymru i Randdeiliaid (Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol), stondin Cynulliad Cenedlaethol Cymru Nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr ar y cyfansoddiad i gael dweud eich dweud ar faterion cyfansoddiadol. Mae Aelodau y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn edrych ar sut mae Cymru yn gweithio gyda seneddau a llywodraethau eraill ac yn awyddus i glywed gan bobl a sefydliadau sydd â phrofiad o roi tystiolaeth ar lefel y DU a Chymru a pha rwystrau y gallant fod wedi'u hwynebu. Trwy ofyn y cwestiynau hyn a chlywed eu profiadau, bydd y Pwyllgor yn gallu argymell y model gorau o weithio i'r dyfodol.  

Dydd Iau 27 Gorffennaf

10.30-11.30 Lansio Ymchwiliad i Ailfeddwl am Fwyd yng Nghymru (Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig), Neuadd Bwyd a Diod Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer dyfodol bwyd a diod yng Nghymru a beth sydd angen ei wneud i gyflawni hyn? Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cyfarfod â stondinwyr i lansio a thrafod ei ymchwiliad newydd i ailfeddwl am fwyd yng Nghymru. Drwy gyfarfod â chynhyrchwyr ac arddangoswyr bwyd mae'r Pwyllgor yn gobeithio dysgu mwy am sut y gallai Cymru greu diwydiant bwyd arloesol sy'n cynnal swyddi o ansawdd uchel, a dod yn gyrchfan enwog yn rhyngwladol ar gyfer y rhai sy'n hoff o fwyd. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn Sioe Frenhinol Cymru. Dilynwch ni ar Facebook, Twitter a Instagram drwy gydol yr wythnos am y newyddion diweddaraf o'r Cynulliad o faes y sioe.