Y Tim Allgymorth a Menter yr Ifanc Cymru, Rownd Derfynol Rhanbarthol Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd 29/04/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/04/2013

Mae Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd i effeithiolrwydd dull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc. Pa gamau y gellir eu cymryd i wella neu gryfhau'r gefnogaeth sydd ar gael i ddarpar entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru? Ddydd Mercher 17 Ebrill 2013, bu Lowri Williams a Caryl Mai Williams o dîm Allgymorth y Cynulliad yn bresennol yn rownd derfynol ranbarthol Gogledd Cymru Menter yr Ifanc Cymru yn casglu tystiolaeth ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor. Rownd Derfynol Rhanbarthol Gogledd Cymru, Menter yr Ifanc Cymru Mae nifer o unigolion sy’n sefydlu eu busnes eu hunain ac yn creu eu cynnyrch eu hunain yn mwynhau’r profiad hwnnw’n fawr, ond teimlai eraill fod angen ymroddiad amser, yn enwedig wrth feddwl am syniadau am gynhyrchion. Dywedodd Lowri Williams, “Buom yn siarad â nifer o bobl ifanc a’u hathrawon a gwnaethant i gyd gyfrannu pwyntiau a syniadau ardderchog ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc. “Bydd y wybodaeth yr ydym wedi’i chasglu nawr yn cyfrannu at fideo a fydd yn cael ei ddangos i’r Pwyllgor, a bydd yn ei helpu i ffurfio’i gasgliadau a’i argymhellion. “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r disgyblion ac i’r athrawon i gyd am ddod draw i siarad â ni.” Bydd y Tîm Allgymorth yn parhau i ymgynghori gydag entrepreneuriaid ifanc ledled Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc ar gael yma: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=6052