Ymadael â’r UE: Y goblygiadau i Gymru - Datblygiadau yng Nghymru

Cyhoeddwyd 01/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/10/2016

Yn dilyn pleidlais y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn archwilio’r goblygiadau i Gymru. Mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn gyfrifol am sicrhau bod buddiannau Cymru a’i phobl yn cael eu diogelu yn ystod y broses adael ac yn y perthnasoedd domestig, Ewropeaidd a rhyngwladol sy’n dilyn. Mae o hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod buddiannau Cymru a’i phobl yn cael eu cynrychioli mewn unrhyw berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd ac yn nhrefniadau gwledydd y Deyrnas Unedig. Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru. brexit-cy Y stori hyd yma Ymddangosodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC o flaen y Pwyllgor ar 12 Medi 2016. Gallwch wylio’r sesiwn llawn ar Senedd.TV neu ddarllen trawsgrifiad o’r sesiwn. Yma, rhoddodd diweddariad ar ymateb Llywodraeth Cymru ar gamau ers canlyniad y refferendwm, gan amlinellu chwe blaenoriaeth yn sgil yr amgylchiadau newydd i amddiffyn buddiannau Cymru, sef:
  • i amddiffyn swyddi yng Nghymru a chynnal hyder a sefydlogrwydd economaidd;
  • i chwarae rhan llawn mewn trafodaethau am amseriad a thelerau ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd;
  • i gadw mynediad at y 500 miliwn o gwsmeriaid yn y Farchnad Sengl;
  • i gynnal trafodaethau ar barhau i gymryd rhan ym mhrif raglenni’r Undeb Ewropeaidd fel y PAC a’r Cronfeydd Strwythurol, yn unol â’r telerau presennol, hyd at ddiwedd 2020 tra bod trefniadau’n cael eu gwneud ar gyfer y tymor hir;
  • mae Cymru’n elwa ar gannoedd o filiynau o bunnoedd oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Mae achos aruthrol nawr dros ddiwygio Fformiwla Barnett yn sylweddol ar unwaith gan ystyried yr anghenion sy’n codi yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd;
  • mae gadael yr Unded Ewropeaidd yn newid cyfansoddiadol enfawr i’r Deyrnas Unedig ac mae gan hynny oblygiadau yr un mor bellgyrhaeddol i’r setliad datganoli. Rhaid i’r berthynas rhwng y Gweinyddiaethau Datganoledig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig nawr gael ei gosod ar sylfaen gwbl wahanol.
Ailadroddodd ei awydd i weld safbwynt negodi’r Deyrnas Unedig wedi cytuno ar ddull pedair cenedl, sy’n cynnwys yr Alban, Gogledd Iwerddon, Cymru a Lloegr, ac un o linellau coch Llywodraeth Cymru byddai mynediad heb dariff i’r Farchnad Sengl. Dywedodd nad oedd aelodaeth yn opsiwn gan fod pleidlais refferendwm yr Undeb Ewropeaidd wedi gwrthod hyn, ond ei fod yn hyblyg ar ba fodel amgen byddai’n cael ei ddilyn, ar yr amod bod o’n darparu sicrwydd mynediad i gynifer o sectorau ag y bo modd i’r Farchnad Ewropeaidd. Datblygiadau yng Nghymru Wythnos yma, mae Aelodau’r Pwyllgor wedi bod yn ymweld â Brwsel am gyfres o gyfarfodydd i helpu llywio eu gwaith ar y goblygiadau i Gymru ac yn benodol, yr opsiynau modelau amgen i aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn wedi cynnwys cyfarfodydd gydag Aelodau Senedd Ewrop, teithiau masnach Canada a’r Swistir i’r Undeb Ewropeaidd, Cynrychiolydd Parhaol Iwerddon i’r Undeb Ewropeaidd, y Comisiwn Ewropeaidd a swyddogion o Dŷ Cymru a Llywodraeth yr Alban. Beth yw’r Modelau amgen i aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd? Mae yna nifer o fodelau amgen y gall y DU eu hystyried ar gyfer ei pherthynas yn y dyfodol â'r UE. Model Norwy Mae Norwy yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), ond nid yn yr UE. Mae'r AEE yn farchnad fewnol sy'n darparu ar gyfer symud rhydd o ran personau, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf, ac yn cynnwys y 28 o Aelod-wladwriaethau'r UE yn ogystal â Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein. Dyma'r model y tu allan i'r UE sydd wedi'i integreiddio fwyaf gyda'r Farchnad Sengl. Mae'r tair gwlad hyn yn cyfrannu at gyllideb yr UE, ac yn cymryd rhan mewn peth gweithgaredd nad yw'n economaidd megis gwrthderfysgaeth. Er bod rhaid iddynt ddilyn y rhan fwyaf o reolau'r Farchnad Sengl, nid oes ganddynt unrhyw bleidlais neu feto yn y modd y mae'r rheolau hyn yn cael eu gwneud. Nid yw Aelodau o'r AEE nad ydynt yn yr UE yn gwneud cyfraniadau i arian CAP nac yn derbyn yr arian hwnnw. Er nad ydynt yn gyffredinol yn gymwys ar gyfer Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, mae Norwy a Liechtenstein yn gymwys ar gyfer rhai rhaglenni trawsffiniol a rhyngwladol. Mae Cytundeb yr AEE yn sicrhau cyfranogiad Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy mewn nifer o raglenni eraill yr UE, gan gynnwys Horizon 2020 (ymchwil ac arloesi) ac Erasmus+ (addysg a hyfforddiant). Cytuniadau dwyochrog wedi'u trafod Mae nifer o wledydd wedi trafod gwahanol lefelau o fynediad i Farchnad Sengl yr UE, sy'n dod â nifer penodol o rwymedigaethau aelodaeth o'r UE gyda hwy. Cytundeb y Swistir â'r UE sy'n dod agosaf at ddyblygu telerau aelodaeth o'r UE, a hynny o ran cyfleoedd a rhwymedigaethau. Yn gyfnewid am fynediad rhannol at y Farchnad Sengl, rhaid i'r Swistir dderbyn symudiad rhydd pobl, cyfrannu at wariant yr UE a chydymffurfio â'r rhan fwyaf o reolau’r Farchnad Sengl. Yn yr un modd â gwledydd yr AEE nad ydynt yn aelodau o'r UE, nid oes gan y Swistir ddim pleidlais na feto ar sut y mae rheolau'r Farchnad Sengl yn cael eu gwneud. Nid yw'r Swistir yn cymryd rhan yn PAC, mae'n ymwneud yn rhannol â Horizon 2020, ac er nad yw'n gymwys yn gyffredinol ar gyfer Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, mae'n gymwys ar gyfer rhai rhaglenni trawsffiniol a rhyngwladol. Canada Ar ben arall y sbectrwm hwn, mae Canada yn ddiweddar wedi gorffen trafod Cytundeb Masnach Rydd â'r Undeb Ewropeaidd – y Cytundeb Economaidd a Masnachol Cynhwysfawr (CEMC), sydd yn mynd trwy’r camau terfynol o gadarnhad. Mae’r trafodaethau hyn wedi cymryd oddeutu saith mlynedd. Mae model Canada yn golygu llai o fynediad at y Farchnad Sengl nac sydd gan y Swistir, ac yn unol â hynny yn golygu llai o rwymedigaethau. Gyda Chytundeb Masnach Rydd, mae gwledydd yn cytuno ar fynediad i farchnadoedd, lefelau tariff a chwotâu ar gyfer masnach rhyngddynt a'r UE. Mae allforwyr sy'n dymuno gwerthu i'r Farchnad Sengl yn cael eu gorfodi yn gyffredinol i gydymffurfio â'i rheolau. Un o’r manteision o gytundeb masnach rydd fel y CEMC yw ei fod yn cynnwys cyd-gydnabyddiaeth o safonau. Unwaith eto, nid oes gan bartïon i Gytundeb Masnach Rydd bleidlais neu feto ar sut mae'r rheolau hyn yn cael eu gwneud. Nid yw Canada yn cyfrannu at gyllideb yr UE, ac nid yw'n derbyn cyllid uniongyrchol o'i ffrydiau ariannu. Nid oes symud rhydd o ran pobl rhwng Canada a'r UE, er bod trefniadau ar gyfer symud dros dro penodol o ran rhai gweithwyr proffesiynol. Model Sefydliad Masnach y Byd yn unig Mae'r DU, ynghyd â phob Aelod-wladwriaeth arall yr UE, hefyd yn aelod o Sefydliad Masnach y Byd (WTO). Yn absenoldeb trefniadau amgen, byddai'r DU yn disgyn yn ôl ar ei haelodaeth o WTO i ddarparu telerau ei pherthynas â'r UE. Dyma'r unig fodel ffurfiol o berthynas yn y dyfodol sydd ar gael ar hyn o bryd i'r DU na fyddai'n gofyn am unrhyw drafodaethau pellach. O dan y model hwn, byddai mynediad y DU i'r Farchnad Sengl yn destun yr un tariffau â phob un o'r 161 aelod arall o WTO nad ydynt wedi trafod eu trefniadau eu hunain. Ynghyd â mynediad cyfyngedig i’r Farchnad Sengl, mae'r model hwn yn cynnwys ychydig yn unig o rwymedigaethau i'r UE. Nid yw'n ofynnol i wledydd WTO gyfrannu at gyllideb yr UE, neu dderbyn symud rhydd o ran pobl. Eto, mae busnesau sy'n masnachu dan reolau WTO yn unig sy'n dymuno gwerthu i'r Farchnad Sengl yn cael eu gorfodi yn gyffredinol i gydymffurfio â'i rheolau. Unwaith eto, nid oes gan aelodau WTO bleidlais neu feto ar sut mae'r rheolau hyn yn cael eu gwneud. Nid oes gan wledydd WTO o reidrwydd fynediad uniongyrchol at ffrydiau ariannu yr UE.  Y camau nesaf Mae’n angenrheidiol bod llais Cymru yn cael ei glywed a’i chynrychioli yn y drafodaeth ynghlwm y berthynas o fasnachu rhwng y DU a’r UE, a bod ni’n deal yn llawn y cyfleoedd positif a negatif beth bynnag fo’r model amgen i aelodaeth. Gallwch ddarllen mwy am yr opsiynau sydd yn agored i’r Deyrnas Unedig ystyried ym mhapur Adran Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Wythnos nesaf, bydd y Pwyllgor yn cynnal ail seminar ar themau arbenigol: Cyllido, Ymchwil a Chyllid, yn benodol canolbwyntio ar ymchwil a symudedd ac effaith ymadael â’r UE ar y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru. I gadw golwg ar waith y Pwyllgor dilynwch @SeneddMADY.