Cyhoeddwyd 21/09/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Yn dilyn penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn archwilio’r goblygiadau i Gymru.
Mae’r
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn gyfrifol am sicrhau bod buddiannau Cymru a’i phobl yn cael eu diogelu yn ystod y broses adael. Mae o hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod buddiannau Cymru a’i phobl yn cael eu cynrychioli mewn unrhyw berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd ac yn nhrefniadau gwledydd y Deyrnas Unedig.

Pob wythnos dros y misoedd nesaf, bydd y Pwyllgor yn cynnal cyfres o seminarau a fydd yn canolbwyntio ar faterion gwahanol a gwahodd arbenigwyr i rannu gwybodaeth a'u syniadau, gan helpu Aelodau’r Pwyllgor i ddeall sut bydd penderfyniad y refferendwm yn effeithio ar Gymru. Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru.
Unwaith y byddant wedi casglu’r wybodaeth a’r arbenigedd hyn, bydd angen help pobol Cymru - i ofyn beth yw eu barn a’u blaenoriaethau am ein dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd a pa fuddiannau yw’r rhai mwyaf pwysig i ddiogelu.
Cynhaliwyd y seminar cyntaf ar 19 Medi 2016 a chanolbwyntiodd ar y gyfraith ryngwladol a masnach. Gallwch wylio’r sesiwn lawn ar
SeneddTV.
Y gyfraith ryngwladol
Beth yw’r gyfraith ryngwladol?
Mae cyfraith ryngwladol yn disgrifio’r corff o reolau sy’n llywodraethu unrhyw berthynas rhwng gwladwriaethau ar lwyfan y byd. Maent wedi tyfu trwy ddefod ac arfer, neu wedi’u cytuno rhwng gwahanol wledydd. Ystyrir rhai rheolau fel rhai sy’n rhwymo’r holl wledydd (e.e. rhai rheolau ar hil-laddiad), a rhai eraill dim ond yn rhwymo'r gwledydd hynny sydd wedi cytuno iddynt mewn cytuniadau.
Mae yna nifer o lysoedd a thribiwnlysoedd rhyngwladol sy’n datrys anghydfodau rhwng gwledydd, gan gynnwys y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, gyda’r cylch gwaith ehangaf, ac wrth gwrs Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd. Ni does unrhyw rym plismona i orfodi dyfarniadau llys ar lefel ryngwladol.
Mae gwledydd hefo cymhelliant i ufuddhau i gyfraith ryngwladol oherwydd yr eisiau i genhedloedd eraill i gydymffurfio gyda hwy. Weithiau, fodd bynnag, mae gwledydd yn torri cyfraith ryngwladol am eu bod yn teimlo bod mwy o fantais iddynt wneud hynny nag ufuddhau. Pan ddigwydd hynny, mae gan wledydd eraill ystod eang o opsiynau cyfreithiol a gwleidyddol i geisio perswadio neu "cosbi" y drwgweithredwr, gan gynnwys sancsiynau masnachu a hyd yn oed y defnydd o rym. Mae system yr UE ar gyfer ymdrin ag achosion o dorri gan un wlad yn, fwy na thebyg, un o’r systemau fwyaf datblygedig yn y byd.
Masnach ryngwladol
Yn rhinwedd ei safle fel aelod o’r UE, mae’r Deyrnas Unedig yn rhan ar hyn o bryd o’r Farchnad Sengl Ewropeaidd. Undeb tollau yw’r Farchnad Sengl. Mae aelodau undeb tollau’n cytuno ran amlaf i drin eu gwledydd drwyddi draw fel un diriogaeth at ddibenion masnach gan symud nwyddau a gwasanaethau’n ddirwystr. Mae yna fasnach rydd yn gyffredinol rhwng aelodau’r undeb hab dariffau na rhwystrau rheoleiddiol i atal masnach. Mae’r Farchnad Sengl yn mynd yn bellach nag hyn, gan galluogi symudiad rhydd o bobl, nwyddau, gwasanaethau, arian a llafur rhwng aelodau’r Farchnad Sengl. Mae perthynas y DU gyda’r Farchnad Sengl yn ansicr, a bydd yn destun i negodiadau yn y dyfodol.
Gallwch ddarllen mwy am yr opsiynau sydd yn agored i’r Deyrnas Unedig ystyried ym mhapur
Adran Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Er na all y Cynulliad ddeddfu ynghylch masnach ryngwladol, ac ni all Llywodraeth Cymru ymrwymo i gytundebau ffurfiol â gwledydd eraill, mae Llywodraeth Cymru yn weithgar o ran hybu allforion Cymru a buddsoddiadau o’r tu allan, o fewn ei chymhwysedd cyffredinol ynglŷn â datblygu economaidd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sicrhau bod penderfyniadau amdano allforion Cymru a
mewnfuddsoddiad er budd pennaf Cymru a’i phobl.
Pa mor bwysig yw masnach ryngwladol i Gymru?
Yn Mehefin 2016 -
- Roedd 1,370 o fusnesau’n allforio nwyddau o Gymru
- Roedd 1,789 o fusnesau’n mewnforio nwyddau i Gymru
O edrych yn ôl dros y 10 mlynedd diwethaf o ddata ar Gymru, hyd at Fehefin 2016, gellir gweld:
- gwerth allforion o Gymru oedd £12.1 biliwn - ac o hynny aeth £4.7 biliwn i wledydd yr Undeb Ewropeaidd a £7.3 biliwn i wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd
- gwerth y mewnforion i Gymru oedd £6.9 biliwn, ac o hynny daeth £3.5 biliwn o wledydd yr Undeb Ewropeaidd a £3.4 biliwn o wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd
- aeth ychydig o dan 40% o allforion Cymru I wledydd yr Undeb Ewropeaidd
[
Ystadegau masnach rhanbarthol CThEM yw prif ffynhonnell data masnach Cymru.]
Er mai mewnforiwr nwyddau net yw’r Deyrnas Unedig, allforiwr net yw Cymru, sydd â gwerth ei hallforion hyd at ddwywaith yn fwy na’i mewnforion yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae hyn yn golygu bod Cymru yn gwerthu a masnachu mwy o nwyddau nag y mae’n ei brynu.
Mae’n angenrheidiol bod llais Cymru yn cael ei glywed a’i chynrychioli yn y drafodaeth ynghlwm masnachu y tu allan i’r farchnad sengl, a bod ni’n deal yn llawn y cyfleoedd positif a negatif beth bynnag fo’r model perthynas masnach.
Wythnos nesaf, bydd y Pwyllgor yn teithio i Frwsel i gyfarfod swyddogion i fonitro a dylanwadu’r trafodaethau a chael rhagor o arbenigaeth. Ar 3 Hydref 2016, bydd y Pwyllgor yn cyfarfod eto yn y Senedd i gynnal seminar a fydd yn edrych ar y goblygiadau o adael yr Undeb Ewropeaidd, ar effaith ar gyllid, ymchwil a Banc Buddsoddi Ewrop.
Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a
Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru. I gadw golwg ar waith y Pwyllgor dilynwch
@SeneddMADY.