Ymarferion technegol - uno'r Cwestiynau Ysgrifenedig a'r Atebion ar wefan y Cynulliad

Cyhoeddwyd 15/04/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/04/2014

Rhan o'm cyfrifoldeb i fel Golygydd y we i'r Cynulliad yw gweithio gyda gwahanol adrannau'r Cynulliad i geisio gwneud ein gwefan yn fwy hwylus ac mor ddefnyddiol â phosibl. Nid gwybodaeth y Cynulliad yw popeth yr ydym yn ei gyhoeddi ar y wefan, sy'n gallu gwneud pethau ychydig yn anodd. Un enghraifft o hyn yw ein Cwestiynau Ysgrifenedig. Cwestiynau ysgrifenedig yw cwestiynau sy'n cael eu cyflwyno gan Aelodau'r Cynulliad i amrywiol Weinidogion Llywodraeth Cymru, yn gofyn am ymatebion i rai pethau. Nid yw'r cwestiynau hyn fyth yn cael eu gofyn yn y Cyfarfod Llawn (y cyfarfod o'r Cynulliad cyfan, a gynhelir yn y Siambr bob dydd Mawrth a dydd Mercher), ond yn hytrach cânt eu hanfon at y Gweinidogion, ac yna eu cyhoeddi ar ein gwefan. Daw'r ymatebion i'r cwestiynau hyn oddi wrth Llywodraeth Cymru, ond rydym hefyd yn gyfrifol am eu cyhoeddi ar ein gwefan. Mae'r Gweinidogion yn anelu at ymateb o fewn saith/wyth diwrnod, ond canllaw yn unig yw hynny. Yr oeddem yn arfer cyhoeddi'r Cwestiynau Ysgrifenedig a'r Atebion fel dogfennau ar wahân, fel y gwelwch yn y ciplun isod. waqs screenshot welsh Os cliciwch ar y ddelwedd byddwch yn cyrraedd y dudalen honno, ond rwy'n gobeithio y bydd y rhain yn cael eu huno gyda'i gilydd yn y dyfodol. Fel y gwelwch, mae dau le ar wahân sy'n cyhoeddi gwybodaeth a ddylai fod gyda'i gilydd – tudalen ar y we yw un ohonynt a PDF yw'r llall. Roedd hyn yn cymryd llawer o amser i'w gyhoeddi, yn ogystal â bod yn anodd i'w lywio. Y llynedd, cawsom gwynion ynghylch trefn mor anhylaw oedd hon. I geisio mynd i'r afael â'r broblem, rydym bellach wedi dechrau cyhoeddi'r atebion a roddwyd gan y Gweinidog o dan y Cwestiynau Ysgrifenedig, fel y gwelir ar y dudalen hon: Cwestiynau Ysgrifenedig a gyflwynwyd ar 18 Mawrth 2014 i'w hateb ar 25 Mawrth 2014. Mae hyn yn rhan o'r gwaith parhaus i wella ein gwefan. Os oes gennych unrhyw sylwadau am y newid hwn, neu unrhyw awgrymiadau eraill yr hoffech eu gwneud, rhowch sylwadau ar neges hon. Helia Phoenix Golygydd y We