Ymchwiliad i'r rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru

Cyhoeddwyd 24/10/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/10/2011

Ymchwiliad i'r rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru

Cylchgorchwyl y’r ymchwiliad yw:

“Edrych ar y rhagolygon ar gyfer gwahanol lwyfannau’r cyfryngau yng Nghymru drwy ystyried:

-  cyflwr presennol y cyfryngau yng Nghymru a’r effaith y mae technoleg newydd a datblygiadau eraill yn ei chael ar hyn, yng nghyd-destun pryderon parhaus ynghylch dyfodol y cyfryngau darlledu a phrint yng Nghymru;

-  beth ddylai’r blaenoriaethau fod o safbwynt Cymru wrth i Lywodraeth y DU gyflwyno cynigion ar gyfer ei Bil cyfathrebu;

-  y cyfleoedd ar gyfer adeiladu modelau busnes newydd ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru; a

-  beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi argymhellion adroddiad Hargreaves ar waith a pha gamau eraill y gellid eu cymryd i gryfhau’r cyfryngau yng Nghymru o ran cynnwys ac plwraliaeth y ddarpariaeth.”

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Cyfnod ymgynghori

Wedi ei ystyried gan: Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Ragolygon ar gyfer Dyfodol y Cyfryngau yng Nghymru, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Y Broses Ymgynghori

Byddai’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn croesawu’ch barn ar rai neu’r cyfan o’r pwyntiau uchod i’w helpu gyda’i ymchwiliad.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a sefydliadau.  Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o swyddogaeth eich sefydliad.

Yn gyffredinol, byddwn yn gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig oherwydd mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi’r dystiolaeth a gyflwynir i’r Pwyllgor ar ein gwefan fel bod cofnod cyhoeddus ohoni. Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth mewn fformat sain neu fideo.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg neu Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â chynlluniau/polisïau iaith Gymraeg i ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth i’r cyhoedd.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn cynnal sesiynau i glywed tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr hydref.

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad at celg.committee@wales.gov.uk

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol 
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Dylai cyflwyniadau ddod i law erbyn dydd Gwener 11 Tachwedd 2011.  Efallai na fydd modd i ni ystyried ymatebion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn.

Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Ragolygon ar gyfer Dyfodol y Cyfryngau yng Nghymru
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol