Ymchwiliad y Cynulliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc

Cyhoeddwyd 19/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/06/2013

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wrthi'n ymchwilio i entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc, gan edrych yn benodol ar brofiadau entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru a sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc Er mwyn casglu barn pobl ifanc ledled Cymru, trefnodd y tîm allgymorth i rai o Aelodau'r Cynulliad ymweld â phrosiectau yng Nghasnewydd a Glannau Dyfrdwy, ynghyd â chynnal cyfweliadau fideo a grŵp ffocws. Clywodd y Pwyllgor hefyd gan Dale Williams – a gyrhaeddodd rownd derfynol MasterChef 2013 – a sefydlodd ei gwmni recriwtio ei hun yn 23 oed. Dyma Dale yn siarad am roi tystiolaeth i'r Pwyllgor: [youtube=http://www.youtube.com/watch?v=g61pHBEM0Us] Cafwyd sesiynau cyfweliadau fideo gyda 37 entrepreneur ifanc ledled Cymru. Cyfarfu'r tîm allgymorth gyda phobl ifanc sy'n berchen amrywiaeth o wahanol fusnesau, o siopau coffi a chyfieithu aps i siop ddillad bwtîc a'r byd amaeth. Mae'r fideo a gafodd ei ddangos yn y Pwyllgor i'w weld yn llawn ar YouTube: [youtube=http://www.youtube.com/watch?v=UFzbPcQjrtc] Ymwelodd swyddogion allgymorth hefyd ag Aberpennar i gynnal grŵp ffocws entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc gyda phobl ifanc. Roedd 11 person ifanc yn cymryd rhan ac amrywiodd y drafodaeth o fuddiannau posibl dechrau busnes i ddylanwad rhaglenni teledu fel Dragon's Den o ran ysgogi entrepreneuriaeth. Focus Group - RCT Trefnodd y tîm allgymorth hefyd ymweliadau â Sefydliad Alacrity yng Nghasnewydd, a'r ganolfan entrepreneuriaeth ranbarthol yng Nglannau Dyfrdwy. Rhannodd Aelodau'r Cynulliad o'r Pwyllgor Menter a Busnes yn ddau dîm a mynd i siarad gyda'r entrepreneuriaid ifanc, cynghorwyr a staff mewn cyfres o drafodaethau ford gron. Cewch wylio beth oedd gan bobl i'w ddweud adeg yr ymweliad â Sefydliad Alacrity ar YouTube: [youtube=http://www.youtube.com/watch?v=z3MCDx0i0rE] Dywedodd Simon Gibson, Ymddiriedolwr Sefydliad Alacrity pan gafodd ei sefydlu, yr hyn a ganlyn am yr ymweliad: "Credaf fod pawb yn elwa o'r ymweliadau hyn; rydym yn cael adborth gan Aelodau'r Cynulliad, ond credaf mai'r hyn sy'r un mor bwysig yw eich bod yn gweld y sefyllfa fel ag y mae pan rydych yn mynd allan i'r maes i gael gwybod beth yw'r materion gwirioneddol; rwy'n cymeradwyo swyddogion a'r Aelodau Cynulliad am roi o'u hamser i wneud hynny, ac rydym yn gwerthfawrogi'r ffaith eu bod wedi gwrando arnom." I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad, cliciwch yma: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=6052