Erthygl wadd gan Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc – Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Heddiw yw diwrnod cyntaf ein hwythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Mae'r uwch dîm a minnau wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau ein bod ni, fel cyflogwr a sefydliad seneddol, yn gosod esiampl o ran hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb a darparu gwasanaethau hygyrch. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi datblygu ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant a'r cynllun gweithredu cysylltiedig, a fydd yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth a'n gwerthoedd o ran amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae'r strategaeth yn nodi sut y mae ein staff yn hyrwyddo ac yn sicrhau gwasanaethau cynhwysol a hygyrch ac yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol i bobl. Bydd hefyd yn ein helpu i gynllunio sut rydym yn cydymffurfio â'r dyletswyddau a roddwyd ar Gomisiwn y Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a hefyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gwmpasu pob un o'r nodweddion gwarchodedig a materion eraill fel cyfrifoldebau gofalu, symudedd cymdeithasol ac anghydraddoldebau eraill.
Fel cyflogwr a darparwr gwasanaethau, mae ein sefydliad wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw un dan anfantais nac yn dioddef gwahaniaethu yn ei erbyn ar y seiliau hyn: bydd ein gweithdrefnau disgyblu yn ymdrin ag ymddygiad gwahaniaethol. Hefyd, fel cyflogwr, rydym yn annog arferion gweithio hyblyg, tra'n darparu ar gyfer anghenion ein busnes.
Yn unol â nodau strategol Comisiwn y Cynulliad, mae'n bwysig inni bod y Cynulliad yn parhau i fod yn hygyrch i bobl Cymru a thu hwnt: gan ei gwneud yn berthnasol, hawdd ac ystyrlon i bobl ryngweithio ag ef a chyfrannu at ei waith.
Mae hefyd yn bwysig inni ein bod yn ymddwyn fel cyflogwr cynhwysol, gan ddenu a chadw talent a galluogi pawb a gyflogwn i wireddu eu llawn botensial.
Manon Antoniazzi - Prif Weithredwr a Chlerc
PARCH
Rydym yn gynhwysol ac yn garedig, ac rydym yn gwerthfawrogi cyfraniadau ein gilydd wrth ddarparu gwasanaethau rhagorol
ANGERDD
Rydym yn bwrpasol wrth gefnogi democratiaeth, gan dynnu ynghyd i wneud gwahaniaeth i bobl Cymru
BALCHDER
Rydym yn arddel arloesedd ac yn dathlu ein llwyddiannau fel tîm
UN TÎM YDYM NI