Ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru: Wythnos ymwybyddiaeth awtistiaeth y byd

Cyhoeddwyd 04/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/04/2019

Yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru rydym yn falch o hyrwyddo cydraddoldeb i bawb. [caption id="attachment_3405" align="alignnone" width="1024"]Untitled design (1) Ch-D: Ty Hywel, Y Senedd, Y Pierhead[/caption] Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein hadeiladau yn hygyrch i ymwelwyr ag awtistiaeth. Y Senedd yw prif adeilad cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n cynnwys siambr drafod eiconig, pensaernïaeth syfrdanol a golygfeydd dros Fae Caerdydd, ac hefyd gall y cyhoedd ymweld ag ef drwy gydol y flwyddyn am ddim. Y Pierhead yw’r adeilad brics coch gyda thŵr cloc, sy’n agos at y Senedd. Un o’r adeiladau hynaf a harddaf ym Mae Caerdydd, mae’n agored i’r cyhoedd ddod draw i’w weld bob dydd. Tŷ Hywel yw’r adeilad lle mae Aelodau’r Cynulliad a staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithio. Er nad yw hwn yn atyniad i ymwelwyr, gall pobl fynd i mewn i’r adeilad i ymweld ag Aelod Cynulliad neu aelod o staff. Rydym hefyd yn cynnig gweithdai addysgol yn yr adeilad hwn, lle mae gennym siambr drafod arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc yn unig. Rydym wedi creu tudalen we i ddarparu gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistiaeth, a chanllawiau sy’n cwmpasu pob adeilad yn fanwl. Ar y dudalen hon, edrychwn ar y Senedd, adeiladau’r Pierhead a Thŷ Hywel, a rhai o’r pethau y gall ymwelwyr fod yn poeni amdanynt, gan gynnwys:
  • Gwiriadau diogelwch, a beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n mynd i mewn i’r adeiladau;
  • Sŵn i’w ddisgwyl a recordiadau o’r synau y gallech eu clywed;
  • Materion synhwyraidd fel goleuo ac arogleuon;
  • Gwybodaeth am ein Hystafelloedd Tawel, y gellir eu defnyddio ar gyfer gweddi, myfyrio; tawel, neu seibiant tawel i bobl sy’n cael trafferth gyda gorlwytho synhwyraidd.
Gallwch hefyd ofyn am unrhyw un o’r canllawiau ar ffurf:
  • Copi caled
  • Fersiwn hawdd ei darllen
  • Print bras
Gallwch ddod o hyd i’r holl ganllawiau, recordiadau sain a rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Ymwelwyr â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth. Yn ogystal ag ymwelwyr â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth, rydym yn ymdrechu i wneud ein hadeiladau yn hygyrch i bob ymwelydd. Mae ein cyfleusterau yn cynnwys:
  • Rampiau a lifftiau
  • Labelu sy’n gyfeillgar i awtistiaeth
  • Systemau dolenni clyw
  • Llogi cadeiriau olwyn
  • Amrywiaeth o gyfleusterau toiled gan gynnwys toiledau niwtral o ran rhywedd, toiledau hygyrch, cyfleuster Newid Lleoedd gyda theclyn codi i oedolion, a thoiledau i bobl â phroblemau symudedd. Mannau parcio i’r anabl.
Mae rhagor o wybodaeth am y pethau yr ydym wedi’u cynnwys wrth ddylunio ein hystâd i sicrhau bod yr adeilad yn cyrraedd ei darged o fod yn esiampl o ran hygyrchedd, ar gael ar ein gwefan: Diogelwch a Mynediad. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich ymweliad, ac rydym yn croesawu adborth ar unrhyw welliannau y gallem eu gwneud.
Mae rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi’i nodi yn ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-21. Os oes gennych unrhyw gwestiynau gallwch gysylltu â ni ar 0300 200 6565 neu anfonwch neges e-bost at cyswllt@cynulliad.cymru.
Beth am gael y Canllaw? (PDF, 140 KB)