Ymweliad cyntaf pwyllgor y Chweched Senedd: ymchwiliad i chwaraeon a diwylliant yng ngogledd Cymru

Cyhoeddwyd 27/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2022   |   Amser darllen munudau

Yn ddiweddar, ymwelodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol â gogledd Cymru i gynnal cyfres o weithgareddau’n ymwneud â'i waith. Roedd y digwyddiadau'n adlewyrchu portffolio'r Pwyllgor ac yn cynnwys ymweliadau â lleoliadau cerddoriaeth a diwylliant a safleoedd treftadaeth. Roedd yr ymweliadau hyn yn gyfle pwysig i drafod yr effaith a gafodd COVID-19 ar y lleoliadau a'r safleoedd hyn, er enghraifft, cadw pellter cymdeithasol y tu allan i'r cyfnodau clo a chynulleidfaoedd yn dychwelyd. Roedd yr ymweliad hefyd yn cyd-daro ag ymchwiliad y Pwyllgor i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig.

'Toi'r byd!'

Ymwelodd y Pwyllgor â dau safle treftadaeth: Tirwedd Lechi Cymru Safle Treftadaeth y Byd UNESCO; ac Amgueddfa Lechi Cymru, yn Llanberis, tirlun sy’n adnabyddus am “doi’r byd”. Cyfeirir at y ddau brosiect hyn yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a'r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Felly, mae'r safleoedd hyn o ddiddordeb mawr i'r Pwyllgor.

Mwynhaodd y Pwyllgor y cyfle i weld arddangosiadau trawiadol y gwaith torri llechi a gofaint a wnaed gan staff yr amgueddfa. Cafodd yr Aelodau gyflwyniad hefyd ar effaith ddiwylliannol, economaidd ac addysgol y dynodiad UNESCO. Cynorthwyodd hyn ni i gael ymdeimlad o'r gwaith a wnaed a'r amser a gafodd ei dreulio i ennill statws Treftadaeth y Byd UNESCO.

Diwylliant yn y gogledd-ddwyrain

Ymwelodd y Pwyllgor hefyd â nifer o leoliadau diwylliannol yn y gogledd-ddwyrain: Saith Seren a Tŷ Pawb yn Wrecsam; a Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug. Diben yr ymweliadau hyn oedd dysgu mwy am y materion sy'n wynebu'r lleoliadau hyn. Clywodd yr Aelodau am yr heriau unigryw sy'n wynebu lleoliadau dan do. Yn enwedig effaith COVID-19, ac effaith ymyriadau’r Llywodraeth a chymorth a ddarparwyd yn ystod y pandemig.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr heriau sy'n wynebu'r Gymraeg yn y gymuned yn ystod gweddill y Chweched Senedd.

Chwaraeon yn y gymuned

Fel rhan o'i ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon, ymwelodd y Pwyllgor â Dreigiau'r Dyffryn, clwb gymnasteg ar lawr gwlad ym Methesda, Gwynedd. Roedd y trafodaethau'n cynnwys sut mae'r clwb gymnasteg yn symud ymlaen wrth inni ddod allan o’r pandemig, yr argyfwng costau byw a'i effeithiau ar y clwb, a chynlluniau'r clwb ar gyfer arallgyfeirio yn y dyfodol.

Ymwelodd y Pwyllgor â Chanolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru ym Mhlas Menai i ddeall rôl y trefnwyr gweithgareddau awyr agored o ran cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon awyr agored. Roedd y Pwyllgor yn falch iawn o glywed am gynnig Plas Menai, a gweld yn uniongyrchol rai o'r cyfleusterau'n cael eu defnyddio. Roedd gan yr Aelodau ddiddordeb arbennig ym mesurau cynaliadwyedd y ganolfan, yn benodol dileu'r hen system wresogi a'i gwaith gyda Llywodraeth Cymru ar hyn. Roedd y Pwyllgor hefyd yn ddiolchgar am y diweddariad a roddwyd iddo gan Chwaraeon Cymru am y cynlluniau gweithredol ar gyfer y safle. Bydd y Pwyllgor yn ystyried y mater hwn wrth iddo ddatblygu ymhellach dros yr haf.

Taith i statws dinas

Ymwelodd y Pwyllgor hefyd â Chlwb Pêl-droed Wrecsam lle trafododd yr Aelodau gyfranogi mewn pêl-droed ar gyfer gwahanol oedrannau a galluoedd. Dysgodd yr Aelodau fwy am rôl y clwb wrth ddatblygu prosiect porth Wrecsam. Ers hynny, mae'r Pwyllgor wedi ysgrifennu at y clwb i ddymuno'n dda i Wrecsam yn y gemau ail-gyfle sydd ar y gweill, ac at ddinasyddion Wrecsam yn ei chais am ddinas diwylliant 2025. Mae'r Aelodau'n gobeithio dal Rob a Ryan y tro nesaf y byddan nhw yn y dref!

Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad ar ei ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig cyn toriad yr haf. I gael gwybod mwy ac i ddilyn gweithgarwch y Pwyllgor, cysylltwch â ni yn SeneddDiwylliant@senedd.cymru neu dilynwch ni ar Twitter @SeneddDiwyllCRh