Ymweliad gan gynrychiolwyr o Senedd yr Alban

Cyhoeddwyd 18/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/03/2014

Daeth wyth aelod o staff o Ganolfan Wybodaeth Senedd yr Alban (SPICe) ar ymweliad â chydweithwyr yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12-13 Chwefror 2014. Mae SPICe yn cynnwys gwasanaeth llyfrgell, ymchwil a gwybodaeth Senedd yr Alban. Bydd swyddogion gwybodaeth proffesiynol ac ymchwilwyr arbenigol pynciau y Ganolfan yn darparu gwasanaeth briffio a gwasanaeth ymholiadau cyfrinachol a diduedd i holl aelodau Senedd yr Alban a’u staff, yn Holyrood a’r swyddfeydd lleol. Dilynodd yr arbenigwyr pwnc ym meysydd Materion Gwledig, Iechyd, Trafnidiaeth a Chynllunio, Ewrop a Chyllid raglen ragorol a luniwyd gan Nia Seaton o wasanaeth ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol. Nod yr ymweliad oedd cymharu arferion a rhannu syniadau. [caption id="attachment_418" align="alignnone" width="300"]Ymwelwyr o Senedd yr Alban Ymwelwyr o Senedd yr Alban[/caption] Cyfarfu arbenigwyr ymchwil SPICe â swyddogion cyfatebol y n y Cynulliad Cenedlaethol. Mae rhywfaint o waith ar y cyd rhwng ymchwilwyr SPICe ac ymchwilwyr y Cynulliad eisoes wedi’i wneud, er enghraifft, lluniwyd papur briffio ar y cyd gan awduron ar "Gymharu’r Systemau Cynllunio yn y pedair gwlad yn y DU", a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2013, a phapur briffio ar y cyd ar "Ddiwygio’r PAC 2014 – 20", a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2013. Bu’r timau yn trafod cyfrifoldebau dros bynciau, gwaith diweddar a gwaith sydd ar y gweill, a’r posibilrwydd o lunio rhagor o bapurau briffio ar y cyd. Hefyd aeth cynrychiolwyr SPICe ar daith o amgylch y llyfrgell, buont yn cwrdd â chlercwyr, roeddent yn bresennol mewn sesiwn friffio a gynhaliwyd gan y gwasanaeth cyfreithiol ar gyfer staff y Cynulliad, cawsant eu tywys o amgylch adeiladau’r Cynulliad, roeddent yn bresennol mewn cyfarfod pwyllgor ac mewn sesiwn gwestiynau ar faes Iechyd yn y Cyfarfod Llawn. Un o’r agweddau mwyaf diddorol ar yr ymweliad oedd dysgu am waith pwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol. Caiff y pwyllgorau gymorth parhaus gan y tîm clercio a’r gwasanaeth ymchwil (yn yr un modd â phwyllgorau Senedd yr Alban), ond mae cymorth ychwanegol ar gael gan gyfreithiwr pwrpasol yn y Cynulliad Cenedlaethol, a gwasanaeth tîm allgymorth. Mae cefnogaeth y tîm allgymorth yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu mewn modd arloesol â grwpiau o randdeiliaid sy’n "anodd eu cyrraedd", nad ydynt yn gallu ymateb i alwadau traddodiadol am dystiolaeth ysgrifenedig o bosibl. Mae’r tîm allgymorth wedi casglu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau’r Cynulliad drwy ddulliau fel sesiynau grwpiau ffocws, cyfweliadau fideo a holiaduron. Mae’r dulliau hyn o ymgysylltu yn caniatáu i unigolion ymwneud â’r broses wleidyddol a chymryd rhan mewn ffordd na allent fod wedi gwneud fel arall. Roedd y tîm SPICe hefyd yn canmol y rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus sydd ar gael i’r Aelodau (ac yn amlwg, y maent yn cymryd rhan ynddi). Nod y rhaglen hon yw cefnogi’r weledigaeth ar gyfer pwyllgorau Seneddol o safon fyd-eang, drwy gefnogi Aelodau’r Cynulliad yn eu rôl ar y pwyllgorau. Mae’r rhaglen yn cynnwys cyrsiau ar holi effeithiol, craffu ar ddeddfwriaeth a gwaith craffu ariannol. Roedd yr ymweliad yn gyfle i’r swyddogion ddod i adnabod ei gilydd. I grynhoi felly, gwelodd SPICe enghreifftiau ardderchog o arfer da, ac yn wir mae’r cynrychiolwyr yn edrych ymlaen at gwrdd eto, a chael croesawu cydweithwyr o Gaerdydd i Holyrood yn y dyfodol agos!