Ymweliad gan swyddogion Senedd yr Alban

Cyhoeddwyd 15/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/10/2014

Ty Hywel Yn ôl ym mis Mehefin, daeth swyddogion datblygu Gaeleg Senedd yr Alban, Mark ac Alasdair, i Gaerdydd am ddeuddydd i ddysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru. gan Alasdair MacCaluim Yn ystod ein hymweliad, roeddem am ddysgu am addysg, y cyfryngau cymdeithasol, allgymorth cymunedol, cyfieithu a lle’r Gymraeg yn y Cynulliad. Addysg Dechreuodd ein hymweliad yn Nhŷ Hywel yng nghwmni Mari Wyn Gooberman, Pennaeth y Tîm Addysg. Mae ystafell arbennig iawn yn yr adeilad hwn, sef Siambr Hywel. Hon oedd prif siambr drafod y Cynulliad o 1999 tan 2006 pan symudodd Cyfarfodydd Llawn a chyfarfodydd pwyllgor y Cynulliad i’w cartref newydd yn adeilad y Senedd y drws nesaf. Pan symudodd Aelodau’r Cynulliad allan o Dŷ Hywel, symudodd pobl ifanc i mewn. Dyma lle cynhelir ymweliadau addysgol yn awr, pan gaiff pobl ifanc gyfle i eistedd mewn siambr drafod go iawn mewn deddfwrfa go iawn lle gallant ddefnyddio botymau pleidleisio a microffonau - yn union fel yr Aelodau eu hunain. Mae’r tîm yn gweithio yn y ddwy iaith, yn cyflwyno sesiynau i ysgolion Cymraeg a chyfrwng Saesneg. Fel Senedd yr Alban, cynigir sesiynau addysg mewn ysgolion ym mhob rhan o Gymru yn ogystal ag yn y Cynulliad ei hun.  Mural Ieithoedd a phwerau Fel rhan o’n hymweliad, cawsom gyfle i gyfarfod â nifer o bobl sy’n ymwneud â hyrwyddo’r Gymraeg yn y Cynulliad. Cawsom gyfarfod â Mair Parry Jones, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a Sarah Dafydd, Rheolwr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol. Clywsom fod gan y Cynulliad Cenedlaethol ran bwysig yn y gwaith o ddatblygu system cyfieithu peirianyddol ar gyfer y Gymraeg. Drwy hyn, gall cyfrifiadur gyfieithu Cymraeg syml. Bydd tîm cyfieithu’r Cynulliad wedyn yn prawf ddarllen ac yn cywiro’r drafft i greu dogfen orffenedig. Mae hwn yn brosiect mawr, pwysig ac arloesol iawn. Yn ôl yr athroniaeth sydd wrth wraidd y Cynllun Iaith, mae gan bob aelod o staff ran yn y gwaith o ddatblygu’r Gymraeg – hyd yn oed os nad ydynt yn ei siarad hi – neu phrin yn ei siarad hi. Dyma ddetholiad byr o ddatganiad uchelgais y cynllun: "Mae gan bawb yr hawl i ryngweithio â’r Cynulliad yn yr iaith swyddogol o’u dewis. Pan fydd rhwystrau yn atal hyn, byddwn yn gweithio i’w datrys fel bod y Cynulliad yn dangos dyhead parhaus i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog”. Fel rhan o’r cynllun, mae’r holl staff wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith Gymraeg. Mae’r cynllun cyfan i’w weld yn. Ar ddiwedd ein diwrnod cyntaf, cawsom gyfle i fynd i un o gyfarfodydd Tîm Cyfathrebu’r Cynulliad. Roedd yn ddiddorol iawn a chlywsom am y pwerau newydd a gaiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Fil Cymru 2014, i godi trethi. Translationbooth Yr adeilad, y Cyfarfod Llawn a’r pwyllgorau Ar ddiwrnod olaf ein hymweliad, cawsom ein tywys o amgylch adeilad y Senedd gan Richard, o’r Tîm Cyswllt Cyntaf, a chawson gyfle i fynd i’r Siambr ei hun ac ymweld â’r bwth cyfieithu. Gwelsom yr ystafelloedd pwyllgora a’r caffi cyhoeddus hefyd a chlywsom fod rhai o olygfeydd Dr Who a Sherlock wedi’u ffilmio yn y Senedd! Yn ddiweddarach, gwelsom y Siambr ar waith yn ystod sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog pan oedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC (Lafur) yn ateb cwestiynau gan y gwrthbleidiau. Roedd rhai yn Saesneg ac eraill yn Gymraeg. Fel yn Senedd yr Alban, mae gan bwyllgorau’r Cynulliad ran bwysig ym musnes y Cynulliad, gan weithio’n agos gyda’r timau Addysg ac Allgymorth i ymgynghori â’r cyhoedd yn ystod ymchwiliadau, gan gynnwys casglu barn plant a phobl ifanc. Gwelsom rai o’r ffilmiau fideo roedd y tîm allgymorth wedi’u cynhyrchu ar gyfer ymchwiliadau’r pwyllgorau ac yna aethom i weld tîm y we a’r cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am bresenoldeb ar-lein y Cynulliad. Mae gan y Cynulliad, fel Senedd yr Alban, sianel YouTube sydd â llawer o glipiau fideo, nid yn unig am fusnes y Cynulliad ond hefyd i ennyn diddordeb y cyhoedd. Mae gan y sefydliad bresenoldeb cryf ar Twitter, Facebook ac mae’r holl negeseuon yn ddwyieithog. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol - fel Senedd yr Alban - yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed eleni ac mae cyfres o fideos wedi’u paratoi, sef 15 mlynedd mewn 15 eiliad! [youtube https://www.youtube.com/watch?v=videoseries?list=PLAiwHW5TKfkHy0HMKN73S9DLXM67bmXFi&w=560&h=315] Er mai dim ond deuddydd oedd gennym i ddysgu am 15 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, cawsom lawer iawn o wybodaeth a nifer fawr o syniadau a ddylai fod yn ddefnyddiol i’n gwaith yn yr Alban. Diolch yn fawr Cynulliad Cenedlaethol Cymru! Visitors Gellir darllen cofnod blog gwreiddiol Alasdair mewn Gaeleg yma: http://parlamaidalba.wordpress.com/2014/08/25/cymru/ Lluniau: Mark ac Alasdair