Ymweliad npower

Cyhoeddwyd 26/11/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/11/2012

Ddydd Mercher, 21 Tachwedd 2012, cafodd aelodau o grŵp npower y cyfle i gael gwell dealltwriaeth o’r broses o ymgysylltu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar ôl cael cyflwyniad ar gylch gwaith a gwaith y Cynulliad gan Kevin Davies, y Rheolwr Cyswllt ac Allgymorth, cafodd y grŵp daith dywysedig o amgylch y Senedd cyn cael cyfle i wylio cyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar drafnidiaeth gyhoeddus integredig. Ar ôl cinio, cafodd y grŵp gyfle i wylio’r Cyfarfod Llawn a gweld eu maes arbenigedd yn cael ei drafod. Cafodd cwestiynau eu gofyn i John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, ar brisiau ynni domestig a phwysigrwydd cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach yng nghefn gwlad Cymru. Canmolodd Terry Ballard, o Adran Polisi a Materion Cyhoeddus npower, y cyflwyniadau ar graffu a deddfwriaeth gan aelodau Adran Gyllid a’r Adran Ddeddfwriaethol, gan nodi eu bod wedi’u plesio gan y ffaith bod eu hymweliad wedi cynnwys cyfle i glywed cwestiynau ar brisiau ynni ac Adnoddau Naturiol Cymru yn y Cyfarfod Llawn. Dywedodd: “Mae ein cwmni yn fuddsoddwr mawr yng Nghymru. Roedd yr ymweliad hwn â Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfle defnyddiol inni ddod i ddeall gwaith, dyletswyddau a chyfrifoldebau’r Cynulliad yn well. Rydym yn edrych ymlaen at gael parhau i ymgysylltu â’r Cynulliad.”