Ymweliad y Pwyllgor Deisebau

Cyhoeddwyd 05/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/11/2013

Fel rhan o ymrwymiad y Cynulliad i bobl Cymru, mae’r Pwyllgor Deisebau yn aml yn ymweld ag ardaloedd o gwmpas Cymru i gyfarfod pobl a chasglu gwybodaeth fydd o gymorth iddynt wrth ystyried deisebau maent wedi ei dderbyn. Yn ystod y tymor yma bydd y Pwyllgor yn ymweld ag ardaloedd o gwmpas Cymru ar ddydd Sul 10 Tachwedd a dydd Llun 11 Tachwedd. Ar ddydd Sul bydd y Pwyllgor yn ymweld â hen safle Ysbyty Canolbarth Cymru yn Nhalgarth wedi iddynt dderbyn deiseb yn annog Llywodraeth Cymru i restru neu warchod fel arall adeiladau nodedig ar y safle.. Am fwy o wybodaeth ar y ddeiseb yma cliciwch yma. Yna bydd y Pwyllgor yn ymweld â’r Goedwig Fawr yng Ngregynog ger y Drenewydd i weld esiamplau o goed hynafol a choed treftadaeth yn dilyn derbyn deiseb gan Goed Cadw Cymru. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar y ddeiseb. Ar fore ddydd Llun bydd y Pwyllgor Deisebau yn Ysgol Uwchradd Prestatyn, Prestatyn, Gogledd Cymru. Bydd aelodau o’r Pwyllgor yn cael trafodaeth hefo disgyblion yn yr Ysgol i ofyn beth maen nhw’n feddwl o’r fyddin yn mynd i ysgolion i recriwtio. Cyn dychwelyd yn ôl i Fae Caerdydd ar gyfer mwy o gyfarfodydd Pwyllgor a’r Cyfarfod Lawn ar ddydd Mawrth bydd y Pwyllgor yn cynnal cyfarfod yn Ysgol Uwchradd Prestatyn. Bydd y pynciau a ganlyn yn cael eu trafod yn y cyfarfod: • Y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru; • Diogelu Tir Comin; • Lluoedd Arfog yn recriwtio mewn Ysgolion; a’r • Ddarpariaeth o Ysgolion I neilltuo sedd: • ffoniwch 0845 010 5500; neu • anfonwch neges e-bost at archebu@cymru.gov.uk