Yn falch o fod yn gorymdeithio gyda'r Cynulliad yn Pride Cymru

Cyhoeddwyd 10/08/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/08/2016

gan Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad [caption id="attachment_1474" align="alignleft" width="143"]Ffotograff o Claire Clancy yn gwisgo coron o flodau’r enfys i baratoi ar gyfer Pride Cymru Claire Clancy yn paratoi ar gyfer Pride Cymru[/caption] Ddydd Sadwrn, byddaf yn ymuno â chyd-gyfeillion ac aelodau o OUT-NAW, ein rhwydwaith LGBT yn y gweithle, wrth orymdeithio yng ngorymdaith Pride Cymru drwy Gaerdydd. Er ein bod yn mynychu Pride ers blynyddoedd lawer, dyma'r tro cyntaf i'r Cynulliad fod yn rhan o'r orymdaith ac rwyf wrth fy modd o gael ymuno â chydweithwyr i hyrwyddo ac annog cydraddoldeb ym maes LGBT. Credaf ei bod yn bwysig i'r Cynulliad gael ei gynrychioli mewn digwyddiadau fel hyn er mwyn dangos ein bod wedi ymrwymo i fod yn sefydliad cynhwysol. Rydym yn falch iawn o'n llwyddiant ym Mynegai Gweithleoedd Stonewall, lle'r ydym yn drydydd ar y rhestr o sefydliadau mwyaf cynhwysol y DU o safbwynt LGBT. Bydd aelodau eraill o'r Bwrdd Rheoli, yn ogystal â staff o bob rhan o'r sefydliad, yn ymuno â mi yn yr orymdaith. Os ydych yng nghanol y ddinas ond na allwch ymuno â ni ar gyfer yr orymdaith, cofiwch godi llaw i'n cefnogi. Hefyd, os ydych yn mynd i'r digwyddiad Pride cofiwch ymweld â bws allgymorth y Cynulliad. Hoffwn hefyd ddymuno pob lwc i dîm rygbi'r Cynulliad y penwythnos hwn, yn y pencampwriaeth 7 bob ochr cynhwysol, Enfys 7s. Rwy'n siŵr y byddent yn ddiolchgar am eich cefnogaeth y penwythnos hwn. Mae datganiad i'r wasg y Llywydd yn rhoi mwy o wybodaeth am ein dathliadau ar gyfer Pride Cymru. Claire Clancy yn paratoi ar gyfer Pride Cymru