Yr Hawl i Brynu: dyma beth y mae angen ichi’i wybod am y newidiadau arfaethedig yng Nghymru

Cyhoeddwyd 07/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/07/2017

Ydy cynlluniau Hawl i Brynu yn helpu tenantiaid fod yn berchen ar gartref neu effeithio ar gymunedau lleol yn negyddol? Dylid eu diddymu neu eu hatal? Dyma rai o’r cwestiynau trafodwn gyda thenantiaid ledled Cymru fel rhan o’n hymchwiliad y gyfraith arfaethedig i Ddiddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig yng Nghymru.

Beth yw’r Hawl i Brynu?

Cyflwynwyd y cynllun Hawl i Brynu yn y DU yn 1980 i ganiatáu rhai tenantiaid i brynu eu tai cyngor am ddisgownt. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynnig newidiadau a fyddai’n dod a’r cynllun Hawl i Brynu i ben yng Nghymru. Drwy gyflwyno'r gyfraith arfaethedig, nod Llywodraeth Cymru yw diogelu stoc tai cymdeithasol Cymru rhag gostwng ymhellach, gan sicrhau y darperir tai diogel a fforddiadwy i bobl nad ydynt yn gallu cael mynediad i'r farchnad dai i brynu neu rentu cartref. Mae ein Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi bod yn ystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnig y gyfraith hon i sicrhau eu bod er budd gorau Cymru a’i chymunedau.

Beth mae’r newidiadau arfaethedig yn ei olygu?

Byddai’r hawl i brynu ar gyfer tenantiaid awdurdodau lleol a landlordiaid cofrestredig yn cael ei ddiddymu ar ôl cyfnod o flwyddyn o leiaf ar ôl cyflwyno’r gyfraith. Mae rhai awdurdodau lleol, gan gynnwys Sir y Fflint, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn eisoes wedi atal y cynllun hawl i brynu. Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi rhoi terfyn ar yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn yr Alban, ond mae Llywodraeth y DU yn gweithredu’n wahanol yn Lloegr. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ei chynlluniau ei hun i ymestyn y polisi hawl i brynu i fwy o gartrefi. Byddai’r gyfraith arfaethedig yn rhoi diwedd ar y cynllun hawl i brynu yn holl awdurdodau lleol Cymru.

Eisiau gwybod ein hargymhellion i Lywodraeth Cymru ar newidiadau i Hawl i Brynu?

Cael yr adroddiad »

Sut gallai’r newidiadau effeithio arnaf i?

Wrth sicrhau bod tenantiaid presennol yn ymwybodol o’r newidiadau, mae’r gyfraith arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth am ei heffeithiau cyn i’r diddymu digwydd, ac mae hefyd yn rhaid i landlordiaid cymdeithasol yn eu tro ddarparu’r wybodaeth honno i’r holl denantiaid y mae hyn yn effeithio arnynt o fewn dau fis wedi i’r gyfraith arfaethedig ddod i rym. Ar ôl cyfnod o flwyddyn o leiaf wedi i’r gyfraith ddod i rym, bydd yr holl hawliau’n cael eu diddymu. Mae hyn yn golygu y gall pob tenant y mae hyn yn effeithio arno arfer ei hawl i brynu o fewn y cyfnod hwnnw, ond nid wedi hynny.

Eich barn chi

Ynghyd ag ymgynghoriad cyhoeddus, roedd rhan allweddol o’r ymchwiliad hwn yn cynnwys ymgysylltu a gweithio gyda thenantiaid ledled Cymru i helpu i ddeall beth mae’r newidiadau arfaethedig yn ei olygu iddynt hwy. Drwy gynnal trafodaethau yng Nghaerdydd, Castell Newydd Emlyn, Bae Colwyn ac Ynys Môn, yn ogystal ag ar-lein ar Dialogue a Facebook, cafodd tenantiaid ledled Cymru gyfle i gymryd rhan, trafod a rhannu eu barn ar y gyfraith arfaethedig ac a ydynt yn teimlo bod angen gwelliannau.
Dylai tai cyngor fod ar gyfer y rhai mewn angen” – Tenant, Grŵp Cyfranogiad Tenantiaid Cyngor Sir Fôn
Cafwyd cefnogaeth eang yn y dystiolaeth ar gyfer y Bil gan denantiaid a sefydliadau, a’r angen i ddiddymu’r Hawl i Brynu er mwyn sicrhau bod y rhai sydd â’r angen mwyaf yn cael mynediad at dai fforddiadwy, ac atal y golled bellach o ran y stoc tai cymdeithasol. Wedi derbyn yr holl dystiolaeth, mae’r Pwyllgor wedi cytuno bydd diddymu’r Hawl i Brynu yn sicrhau bod y stoc tai cymdeithasol newydd a’r stoc sydd eisoes yn bodoli yn parhau i gael i’w defnyddio ar gyfer ei diben gwreiddiol, sef fel modd o ddarparu llety fforddiadwy ar rent gyfer y rhai sydd â’r angen mwyaf.

Yr effaith ar denantiaid cymwys a pherchentyaeth

Roedd y mwyafrif o denantiaid yn cydnabod y wasgfa y mae pobl yn teimlo bellach yn ceisio cael mynediad at y farchnad dai. Mae’r cyflog cyfartalog mewn rhai ardaloedd yng Nghymru yn llai na’r isafswm cyflog sydd eu hangen i fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau Cymorth I Brynu ac mae nifer o denantiaid yn cael eu cyflogi drwy gontractau dim oriau. Dywedodd tenantiaid Ynys Môn fod y cyflog cyfartalog yn £14,000 i drigolion. O ganlyniad, mae’r Pwyllgor yn credu ei bod yn bwysig codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth o’r mentrau i gynorthwyo perchentyaeth ymhlith tenantiaid cyn y diddymu.  

Dyletswydd i roi gwybodaeth i denantiaiad

Mynegodd llawer o denantiaid eu pryderon ynghylch cyfathrebu’r newidiadau hyn gyda thenantiaid. Nad oes unrhyw fanylion yn y Bil ynghylch sut y dylai’r wybodaeth ofynnol gael ei chyfleu i denantiaiad neu ei haddasu i ddiwallu eu hanghenion amrywiol. O ganlyniad, mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn diwygio’r Bil I sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei gyfleu i denantiaiad yn y ffordd fwyaf priodol a hygyrch i ddiwallu eu anghenion amrywiol. Dylai’r Llywodraeth profi’r wybodaeth ddraft gyda thenantiaid cyn iddi gael ei chwblhau er mwyn sicrhau ei bod yn addas at y diben.
"...mae pob dim angen mynediad at y cyfryngau cymdeithasol a’r we nawr… mae unrhyw beth sy’n digwydd nawr yn dyfynnu gwefan am ragor o wybodaeth… bydd pobl yn anwybodus os nad yw’r wybodaeth yn hygyrch" - Tenant, Rhwydwaith Tenantiaid De Cymru TPAS Cymru

Beth yw’r camau nesaf?

Nawr bod y Pwyllgor wedi rhoi ei argymhellion I Lywodraeth Cymru ar sut y gellir gwella’r gyfraith arfaethedig, bydd Llywodraeth Cymru yn cael y cyfle i ymateb. Cyn gwneud y newidiadau i’r gyfraith arfaethedig, bydd argymhellion y Pwyllgor yn cael eu trafod ymhlith holl Aelodau’r Cynulliad sy’n cynrychioli pobl Cymru ar 18 Gorffennaf 2017. I gael yr holl wybodaeth a’r datblygiadau diweddaraf, gellwch
  • Dilyn y Pwyllgor ar Twitter @SeneddCLlLCh; a
  • Mynd i dudalen y Pwyllgor ar y gyfraith arfaethedig