Yr hyn sydd angen i chi ei wybod am y system bleidleisio newydd ar gyfer etholiad y Senedd 2026

Cyhoeddwyd 03/02/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/02/2025

Mae’r ffordd rydych chi’n pleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn newid yn 2026, ac mae’n addo gwneud eich pleidlais yn gryfach nag erioed.

Beth am i ni fwrw golwg ar yr hyn sy'n digwydd.

Sut bydd y ffordd rydych chi’n pleidleisio yn newid?

Gan ddechrau yn 2026, bydd eich papur pleidleisio yn newid. Bydd gennych un bleidlais i ddewis cynrychiolwyr ar gyfer eich etholaeth.

 

Y broses bleidleisio newydd

  • Bydd gennych chi un papur pleidleisio.
  • Byddwch yn pleidleisio naill ai dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol i gynrychioli eich etholaeth.
  • Os bydd plaid yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill un neu fwy o seddi yn y Senedd.
  • Os bydd ymgeisydd annibynnol yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill sedd yn y Senedd.
  • Bydd seddi yn adlewyrchu'n well ganran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd yn ei hennill.

Yr hen broses bleidleisio

  • Roedd gennych chi ddau bapur pleidleisio.
  • Ar y papur pleidleisio cyntaf, roeddech chi’n pleidleisio dros ymgeisydd i gynrychioli eich etholaeth leol.
  • Ar yr ail, roeddech chi fel arfer yn dewis plaid wleidyddol i gynrychioli’r rhanbarth o Gymru rydych chi’n byw ynddi.

 

 

Ar ôl cyhoeddi canlyniadau'r etholiad, bydd gan bob etholaeth yng Nghymru chwe Aelod o'r Senedd. Bydd cyfanswm o 96 o Aelodau, yn cwmpasu Cymru gyfan.

A yw fy etholaeth yn newid?

Bydd – o 2026 ymlaen caiff Cymru'n ei rhannu yn 16 o ardaloedd etholaethol newydd. Dyma y mae angen i chi ei wybod:

Nid oes penderfyniad terfynol wedi bod eto am yr 16 etholaeth newydd. Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn gyfrifol am benderfynu ar yr ardaloedd etholaethol newydd a bydd yn cyhoeddi'r ffiniau terfynol erbyn mis Ebrill 2025.


Ffiniau etholaethol blaenorol y Senedd:

  • Yn etholiadau blaenorol y Senedd, roedd 40 o ardaloedd etholaethol yng Nghymru, a phum rhanbarth.

Newidiadau i ddod yn 2026:

  • Yn 2023, gostyngwyd nifer yr etholaethau yng Nghymru ar gyfer Etholiad Cyffredinol y DU o 40 i 32.
  • Yn etholiad nesaf y Senedd, bydd pob un o’r 32 o ardaloedd hyn yn cael eu paru ag un arall i greu 16 o etholaethau.
  • Bydd pob un o’r 16 o etholaethau hyn yn ethol chwe Aelod o’r Senedd.

Mae'r newid hwn yn golygu mwy o gynrychiolaeth i chi a'ch cymuned.

 

Caiff pob person yng Nghymru ei gynrychioli gan chwe Aelod o’r Senedd, a gallwch gysylltu ag unrhyw un ohonynt am faterion yn eich ardal. Efallai bod un ohonyn nhw wedi eich helpu chi o'r blaen, neu mae ganddynt ddiddordeb yn eich pwnc.

Gallech gysylltu ag unrhyw un yn unigol, neu bob un ohonynt. Chi sydd â’r dewis.

Gallwch ganfod pwy yw eich Aelodau cyfredol yma