Mae’r ffordd rydych chi’n pleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn newid yn 2026, ac mae’n addo gwneud eich pleidlais yn gryfach nag erioed.
Beth am i ni fwrw golwg ar yr hyn sy'n digwydd.
Sut bydd y ffordd rydych chi’n pleidleisio yn newid?
Gan ddechrau yn 2026, bydd eich papur pleidleisio yn newid. Bydd gennych un bleidlais i ddewis cynrychiolwyr ar gyfer eich etholaeth.
Ar ôl cyhoeddi canlyniadau'r etholiad, bydd gan bob etholaeth yng Nghymru chwe Aelod o'r Senedd. Bydd cyfanswm o 96 o Aelodau, yn cwmpasu Cymru gyfan.
A yw fy etholaeth yn newid?
Bydd – o 2026 ymlaen caiff Cymru'n ei rhannu yn 16 o ardaloedd etholaethol newydd.
Creodd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru yr ardaloedd newydd drwy baru’r 32 etholaeth sydd gan Gymru ar gyfer Senedd y DU. Gwnaeth y Comisiwn hefyd ystyried ffiniau lleol, ffyrdd a chysylltiadau trafnidiaeth, a nodweddion naturiol fel afonydd a mynyddoedd. Cewch ragor o wybodaeth ar ei wefan.
Ffiniau etholaethol blaenorol y Senedd:
- Yn etholiadau blaenorol y Senedd, roedd 40 o ardaloedd etholaethol yng Nghymru, a phum rhanbarth.
Newidiadau i ddod yn 2026:
- Yn 2023, gostyngwyd nifer yr etholaethau yng Nghymru ar gyfer Etholiad Cyffredinol y DU o 40 i 32.
- Yn etholiad nesaf y Senedd, bydd pob un o’r 32 o ardaloedd hyn yn cael eu paru ag un arall i greu 16 o etholaethau.
- Bydd pob un o’r 16 o etholaethau hyn yn ethol chwe Aelod o’r Senedd.
Mae'r newid hwn yn golygu mwy o gynrychiolaeth i chi a'ch cymuned.
Caiff pob person yng Nghymru ei gynrychioli gan chwe Aelod o’r Senedd, a gallwch gysylltu ag unrhyw un ohonynt am faterion yn eich ardal. Efallai bod un ohonyn nhw wedi eich helpu chi o'r blaen, neu mae ganddynt ddiddordeb yn eich pwnc.
Gallech gysylltu ag unrhyw un yn unigol, neu bob un ohonynt. Chi sydd â’r dewis.