16 oed yn rhy ifanc ar gyfer twll mewn rhan bersonol o'r corff - meddai pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 10/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/02/2017

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dweud mai 18 ddylai fod yr oedran ar gyfer cydsynio i dwll mewn rhan bersonol o'r corff yn hytrach na 16 oed fel y cynigiwyd gan Lywodraeth Cymru.

Wrth argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), anghytunodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu i bobl dan 18 oed gydsynio i gael twll mewn rhan bersonol o'r corff.

Roedd gan y Pwyllgor bryderon difrifol am y goblygiadau meddygol sy'n gysylltiedig â thyllau mewn rhannau personol o'r corff, y ffaith y gallai pobl ifanc 16 ac 17 oed fod yn agored i niwed, a'r hyn a allai fod yn digwydd ym mywyd person ifanc sy'n ei annog i fod eisiau twll mewn rhan bersonol o'r corff yn 16 oed.

Mae'r Pwyllgor hefyd eisiau i'r Bil gael ei gryfhau i atal unrhyw un a gafwyd yn euog o drosedd rywiol rhag cael trwydded i gynnig triniaethau arbennig fel rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff.

"Mae'r Pwyllgor yn cytuno gyda bron pob un o'r darpariaethau ym Mil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ond rydym yn gwbl argyhoeddedig mai 18 oed ddylai fod yr oedran cydsynio ar gyfer twll mewn rhan bersonol o'r corff," meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

"O ystyried faint o dystiolaeth sydd gan weithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd ac iechyd amgylcheddol ynglŷn â'r niwed arwyddocaol y mae modd i driniaeth o'r fath ei achosi i gorff sy'n dal i ddatblygu, nid ydym wedi'n hargyhoeddi gan resymeg y Gweinidog dros ddewis 16 oed, ac felly rydym yn croesawu ei hymrwymiad i ystyried y mater hwn ymhellach.

"Rydym hefyd yn pryderu'n fawr nad yw'r rhestr o droseddau sy'n atal pobl rhag cael trwydded i gynnig triniaethau arbennig, gan gynnwys rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff, yn cynnwys troseddau rhywiol ar hyn o bryd. Rydym yn credu y dylid diwygio'r Bil i atal y bobl hyn rhag cael trwyddedau."

Mae Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn mynd i'r afael ag ystod eang o faterion sy'n effeithio ar iechyd pobl.

Os caiff ei basio, bydd yn gwahardd ysmygu ar dir ysgolion, meysydd chwarae ac ysbytai. Byddai hefyd yn golygu y byddai cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr cynhyrchion tybaco a nicotin yn cael ei chreu. Byddai'n newid y ffordd y caiff gwasanaethau fferyllol eu cynllunio ar draws Cymru, a byddai'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gymryd golwg strategol ar sut y gellir darparu toiledau yn cael eu darparu ar gyfer pobl leol a'u defnyddio gan y bobl hyn.

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 19 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Bod y Gweinidog yn mynd ati ar frys i ymchwilio i'r posibilrwydd o gyflwyno mesurau i fynd i'r afael â gordewdra a materion eraill sydd angen blaenoriaeth o safbwynt iechyd y cyhoedd, naill ai drwy'r ddeddfwriaeth hon neu o dan bwerau presennol;
  • Bod y Gweinidog yn gwneud gwaith brys i ddeall faint o driniaethau addasu'r corff sy'n cael eu cynnal yng Nghymru ac yn asesu beth yw lefel y risg i iechyd y cyhoedd, gyda'r nod o ychwanegu'r rhain at y ddeddfwriaeth cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl;
  • Dylid diwygio'r Bil fel nad oes darpariaeth ar gyfer esemptiad cyffredinol ar wyneb y Bil ar gyfer unrhyw broffesiwn gofal iechyd. Dylid esemptio unrhyw broffesiwn gofal iechyd, gan gynnwys meddygon, deintyddion a nyrsys, o'r gofyniad trwyddedu dim ond drwy reoliadau ac ar ôl ymgynghori â'r cyrff proffesiynol perthnasol; a
  • Dylid ail-enwi Asesiadau Effaith ar Iechyd yn Asesiadau Effaith ar Iechyd a Llesiant i sicrhau bod gan y cyhoedd ac ymarferwyr ddealltwriaeth gyfredol sy'n gyson â deddfwriaeth arall.

Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod Bil Iechyd y Cyhoedd cyn pleidleisio ynghylch a ddylai symud ymlaen i gyfnod 2 o broses ddeddfu'r Cynulliad.

Full report