200 o bobl ifanc i ddod i gynhadledd Llywodraeth a Gwleidyddiaeth flynyddol

Cyhoeddwyd 14/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/02/2017

​Bydd dros 200 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru yn dod i Gynhadledd Llywodraeth a Gwleidyddiaeth flynyddol y Cynulliad Cenedlaethol rhwng 15 ac 16 Chwefror 2017.

Bydd myfyrwyr ysgolion a cholegau Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Abertawe, Caerdydd a Gwent yn ymweld yn ystod y ddau ddiwrnod ac yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar Brexit a phobl ifanc mewn gwleidyddiaeth, a bydd gweithdai i drafod sut y mae'r Cynulliad yn deddfu.

Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal gan Lywydd Cynulliad, Elin Jones AC, a bydd yn agor gyda sesiwn holi ac ateb.

Mae ennyn diddordeb pobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad yn rhan annatod o strategaeth Comisiwn y Cynulliad dros y pum mlynedd nesaf ac un o’i ymrwymiadau allweddol yw sefydlu senedd ieuenctid newydd i Gymru.

Oherwydd bod y gynhadledd mor boblogaidd, eleni, cynhelir dwy gynhadledd ar wahân gan gyflwyno’r un rhaglen ar y ddau ddiwrnod.

"O gofio bod mwy a mwy o gyfrifoldebau’n cael eu datganoli i Gymru, mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn deall ac yn cyfrannu at y penderfyniadau a fydd yn effeithio ar eu dyfodol," meddai Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Dyna pam mae’n hanfodol ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a sicrhau eu bod yn cyfranogi. Mae sefydlu senedd ieuenctid Cymru yn rhan allweddol o'n strategaeth ar gyfer y Cynulliad hwn.

"Rwy'n edrych ymlaen at groesawu pawb i Siambr Hywel ar gyfer y gynhadledd eleni."

Bydd myfyrwyr o’r canolfannau a ganlyn yn bresennol ar y dydd Mercher (15.02.2017): Ysgol Gyfun Croesyceiliog (Cwmbrân), Ysgol Howells (Caerdydd), Ysgol Uwchradd Llanisien (Caerdydd), Ysgol Bro Myrddin (Sir Gaerfyrddin), Coleg Gwent, Ysgol Gyfun Radur (Caerdydd) ac Ysgol Brenin Harri'r VIII (Y Fenni).

Ar y dydd Iau ( 16.02.2017) byddwn yn croesawu: Ysgol Alun (Sir y Fflint), Coleg Gwent (campws Cross Keys a Blaenau Gwent), Coleg Gŵyr (Abertawe), Ysgol Gyfun St Cyres (Penarth) ac Ysgol Esgob Llandaf (Caerdydd).

Dyma’r rhaglen ar gyfer y ddau ddiwrnod:

10.00 - Croeso, Cyflwyniad i’r Pumed Cynulliad
10.30 - Sesiwn Holi ac Ateb, Elin Jones AC, y Llywydd
11.00 - Egwyl
11.20 - Brexit: Ble rydym ni nawr? Panel o arbenigwyr academaidd a newyddiadurwr gwleidyddol Cymreig yn cadeirio.
12.20 - Cinio
13.20 - Gweithdy ar graffu ar ddeddfwriaeth
14:45 - Dadl - Pobl ifanc a gwleidyddiaeth, Panel o arbenigwyr academaidd ac Aelodau'r Cynulliad a newyddiadurwr gwleidyddol Cymreig yn cadeirio.
15:50 - Sesiwn adborth a chloi’r gynhadledd