750,000 o ymwelwyr wedi dod drwy ddrysau y Senedd erbyn hyn
Mae tri chwarter miliwn o bobl bellach wedi ymweld ag y Senedd ym mae Caerdydd ers iddo agor yn 2006.
Ymwelydd rhif 750,000 oedd Alison Bennett o Dartford, yng Nghaint.
Roedd yn ymweld â Chaerdydd, gyda’i rhieni David a Gillian, i wylio’r Grand Prix beiciau modur yn Stadiwm y Mileniwm.
"Dyma’r tro cyntaf i ni ddod i Gaerdydd, ond os mai dyma’r math o groeso a gawn, byddwn yn ymweld â’r ddinas eto,” meddai David.
Cymerodd y teulu fantais o’r teithiau am ddim i ymwelwyr o gwmpas adeilad y Senedd.
Fe’u croesawyd gan Dianne Bevan, Prif Swyddog Gweithredol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd: “Mae’n grêt bod cymaint o bobl wedi dod drwy ddrysau y Senedd ers iddo agor dair blynedd yn ôl.
“Mae’n bwysig bod cymaint o bobl â phosibl yn dod i mewn i weld y gwaith rydym yn ei wneud.
“Mae’n braf hefyd gweld bod ymwelwyr yn dod i’n gweld o leoedd mor bell i ffwrdd â Dartford yng Nghaint. Mae’n golygu bod y Senedd yn atyniad allweddol i dwristiaid hefyd.”