A ddylai’r Mesur arfaethedig ynghylch yr amgylchedd ddefnyddio’r incwm o’r ardoll a godir ar fagiau plastig ar gyfer prosiectau gwyrdd? Cyfle i ddweud eich dweud!

Cyhoeddwyd 25/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

A ddylai’r Mesur arfaethedig ynghylch yr amgylchedd ddefnyddio’r incwm o’r ardoll a godir ar fagiau plastig ar gyfer prosiectau gwyrdd? Cyfle i ddweud eich dweud!

Mae Llywodraeth Cymru am ddeddfu er mwyn gorfodi manwerthwyr i ddefnyddio’r incwm o’r ardoll a godir ar fagiau plastig ar gyfer prosiectau gwyrdd cydnabyddedig yng Nghymru.

Bydd y Mesur arfaethedig ynghylch Gwastraff (Cymru) 2010 hefyd yn ymgorffori yn y gyfraith targedau ailgylchu llym ar gyfer cynghorau lleol yng Nghymru.

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awr am glywed barn y cyhoedd ar y Mesur arfaethedig.

Dywedodd Jenny Randerson AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyflwyno tâl gorfodol am fagiau plastig erbyn gwanwyn 2011, a hynny ar sail deddf a wnaed yn San Steffan, sef y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008.

“Ar hyn o bryd, fodd bynnag, nid oes gan y Llywodraeth yr hawl i benderfynu sut y dylai manwerthwyr ddefnyddio’r incwm o’r ardoll honno.

“Bydd y Mesur arfaethedig hwn yn galluogi’r Llywodraeth i gyfeirio’r arian hwnnw i brosiectau amgylcheddol.

“Mae’n ddarn pwysig o ddeddfwriaeth amgylcheddol, ac rydym felly am i aelodau’r cyhoedd gael cyfle i ddweud eu dweud.”

Bydd y Mesur arfaethedig hefyd yn pennu targedau statudol ar gyfer y canran o wastraff y dylai cynghorau yng Nghymru ei ailgylchu, sef:

  • 2012/13 – 52%

  • 2015/16 – 58%

  • 2019/20 – 64%

  • 2024/25 – 70%

Bydd y Mesur arfaethedig hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru bennu targedau gwastraff eraill ar gyfer awdurdodau lleol, ac i bennu cosbau ariannol ar gyfer awdurdodau lleol sy’n methu â chyrraedd y targedau penodedig o dan y Mesur arfaethedig.

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad i legislationoffice@wales.gsi.gov.uk a rhowch Ymgynghoriad – Mesur arfaethedig ynghylch Gwastraff (Cymru) 2010 fel pennawd i’r e-bost.

Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Sarah Sargent, Dirprwy Glerc y Pwyllgor, Y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Yn ogystal, gallwch gyflwyno tystiolaeth ar ein gwefannau rhwydweithio cymdeithasol: