A ydych yn cael eich cynrychioli? Camu Ymlaen Cymru – lansio cynllun newydd i annog mwy o bobl i gyfranogi mewn democratiaeth yng Nghymru

Cyhoeddwyd 16/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

A ydych yn cael eich cynrychioli?

Camu Ymlaen Cymru – lansio cynllun newydd i annog mwy o bobl i gyfranogi mewn democratiaeth yng Nghymru

Mae dinasyddion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yng Nghymru’n cael eu hannog i gymryd rhan mewn democratiaeth leol a chenedlaethol o ganlyniad i gynllun newydd sy’n cael ei lansio heddiw gan y Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Datblygwyd y Cynllun Camu Ymlaen Cymru mewn partneriaeth â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru i annog ystod amrywiol o bobl i chwarae mwy o ran mewn democratiaeth ac yn y broses o wneud penderfyniadau’n lleol.

Drwy Camu Ymlaen Cymru, bydd gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn democratiaeth genedlaethol a lleol gyfle i gael darlun gwell o’r hyn y mae cymryd rhan ar sail ddyddiol yn ei olygu.

Rhoddir cyfle i’r unigolion sy’n cymryd rhan gysgodi Aelodau’r Cynulliad neu gynghorwyr lleol, gan arsylwi'r hyn a wnânt a dysgu ynghylch eu rôl. Bydd hyn yn amrywio o gyflenwi cyllid a gwasanaethau cyhoeddus i’w helpu i hysbysu aelodau o’u cymuned ynglyn â ffynonellau defnyddiol o wybodaeth.

Bydd Aelodau’r Cynulliad a chynghorwyr lleol yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’r cyfranogwyr i’w helpu i benderfynu a ydynt am chwarae mwy o ran, yn ogystal â’u cynghori ynglyn â’r hyn y maent am ei wneud nesaf.

Dywedodd Lorraine Barrett AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb:

“Er bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymryd camau breision o ran sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau, mae’n amlwg bod angen gwneud llawer mwy i ymgysylltu â phobl o grwpiau eraill nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol.”

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Bydd yn meithrin mwy o hyder yn y Cynulliad ac mewn llywodraeth leol ymysg grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ac yn rhoi’r cyfle iddynt gael y sgiliau a’r wybodaeth i fod yn llysgenhadon cymunedol, fel y gallant gynghori a grymuso eraill i chwarae mwy o ran mewn cymdeithas ddinesig.”

Dywedodd y Cynghorydd John Davies, arweinydd CLlLC: “Mae sicrhau bod dinasyddion yn cymryd rhan mewn bywyd dinesig a gwleidyddol yn hanfodol os ydym am weld democratiaeth yn ffynnu yn y dyfodol. Er mwyn i’r cynllun hwn lwyddo, mae angen i ddinasyddion sy’n teimlo nad yw eu llais yn cael ei glywed neu nad yw eu safbwyntiau’n cael eu hystyried gymryd rhan.”

Mae Camu Ymlaen Cymru yn dilyn prosiect blaenorol a gynhaliwyd gan Ymgyrch y Bleidlais Ddu mewn partneriaeth â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a lwyddodd i gynyddu nifer y bobl sy’n cynrychioli pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig mewn gwleidyddiaeth. Dywedodd Elizabeth Musa, un o raddedigion y cynllun hwn a gysgododd Helen Mary Jones AC:

“Bu’n daith wirioneddol ac yn addysgol. Buaswn yn dweud wrth unrhyw un sy’n meddwl gwneud cais am le ar y cynllun mentora i beidio ag aros ar y tu allan gan edrych i mewn; cymerwch ran fel eich bod yn rhywun a helpodd i beri newid yn eich ardal. Peidiwch â’i adael i rywun arall!”.

Mae 14 o Aelodau’r Cynulliad, yn ogystal â chynghorwyr o awdurdodau lleol yng Nghymru, wedi cytuno i fod yn fentoriaid.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y cynllun ymweld â http://www.cynulliadcymru.org/step-up-cymru i gael mwy o wybodaeth neu gysylltu ag Adam Rees ar 029 2089 8178

Nid oes yn rhaid i ymgeiswyr ddod o gefndir gwleidyddol neu gael profiad mewn gwleidyddiaeth.
Fodd bynnag, dylent:

  • fod yn frwdfrydig ynglyn â gwleidyddiaeth / cyfranogiad dinesig;

  • bod ag awydd cryf i ddysgu mwy am y byd gwleidyddol;

  • bod yn awyddus i fod yn Lysgenhadon Cymunedol a fydd yn cynrychioli safbwyntiau eu cymunedau ac yn hyrwyddo democratiaeth;

  • bod yn barod i weithio’n hyblyg o gwmpas ymrwymiadau personol/gwaith; a

  • bod â dealltwriaeth ynghylch rhai o brif bryderon cymdeithasol a gwleidyddol y grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol y maent yn eu cynrychioli.

Bydd y meini prawf ar gyfer paru yn debygol o gael eu seilio ar:

  • ymlyniad gwleidyddol

  • cydweddoldeb daearyddol

  • tebygrwydd o ran ymrwymiadau gwaith/gofalu

Mae’r grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru yn cynnwys: grwpiau ethnig lleiafrifol; pobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol; pobl anabl; pobl sydd â chrefydd neu gred gwahanol; pobl ifanc; pobl hyn; pobl trawsryweddol; a menywod.

Mae ‘grwp llywio’ yn rhan o’r broses o ddylunio, hyrwyddo, gweithredu a monitro’r cynllun, sydd hefyd yn cynnig gwybodaeth arbenigol lle bo hynny’n angenrheidiol. Mae’r aelodau yn cynnwys:

  • Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA)

  • Anabledd Cymru

  • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

  • Y Ddraig Ffynci

  • Cyngor Rhyng-ffydd Cymru

  • Ymgyrch y Bleidlais Ddu

  • Stonewall Cymru

  • Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru

  • Merched yn Gwneud Gwahaniaeth

  • Help the Aged Cymru ac Age Concern yng Nghymru