A yw'r Ddeddf Teithio Llesol yn gweithio i Gymru? – Ymchwiliad newydd gan un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 18/12/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2018

A yw'r Ddeddf Teithio Llesol yn gweithio? Dyna'r cwestiwn sy'n cael ei ofyn gan un o bwyllgorau'r Cynulliad wrth iddo graffu ar y gyfraith sydd i fod i'w gwneud yn haws cerdded a seiclo yng Nghymru.

Lansiodd y Pwyllgor ymgynghoriad ysgrifenedig heddiw, yn gofyn am sylwadau ynghylch cyfraith gyntaf Cymru ym maes trafnidiaeth, a ddaeth i rym yn 2013.

Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: "Roedd y Ddeddf Teithio Llesol yn galw ar awdurdodau lleol i gynhyrchu dau fap – un map o'r llwybrau cyfredol ar gyfer cerdded a beicio; a map arall yn nodi eu dyheadau ar gyfer y dyfodol.

"Dylai pob awdurdod lleol fod wedi cwblhau'r mapiau hynny yn ystod y mis diwethaf. Felly, mae'n bryd asesu llwyddiant y Ddeddf a gofyn a yw'n cyflawni'r newid a fwriedir.

"Er ein bod am glywed gan y rheini sy'n ymwneud â'r Ddeddf, rydym hefyd am glywed gan y bobl hynny nad ydynt yn cerdded nac yn seiclo, a hynny er mwyn canfod beth arall y gellid ei wneud i'w galluogi i wneud hynny."

Yn ogystal â chynnal ymgynghoriad ysgrifenedig i gasglu sylwadau'r rhai sy'n ymwneud â gweithredu'r Ddeddf, bydd y Pwyllgor yn lansio arolwg cyhoeddus er mwyn caniatáu i bobl ddweud eu dweud ar y Ddeddf, boed a ydynt yn cerdded a seiclo ai peidio. Bydd y Pwyllgor hefyd yn trefnu grwpiau ffocws ledled Cymru i archwilio safbwyntiau pobl ymhellach.

Ychwanegodd Mr George: "Y Ddeddf Teithio Llesol yw'r gyfraith fwyaf arwyddocaol a basiwyd yn y Cynulliad o ran annog pobl Cymru i symud.

"Bydd y Pwyllgor yn gofyn a yw'r gyfraith wedi bod yn llwyddiannus, ac a yw'r cynllun gweithredu, y Bwrdd ymgynghorol a'r canllawiau dylunio ar gyfer awdurdodau lleol yn effeithiol."

 



Hoffem ni clywed gennych chi.

Cyfle i gyfrannu at ymgynghoriad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar deithio llesol yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ›