Adalw’r Senedd er mwyn rhoi teyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines

Cyhoeddwyd 09/09/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/09/2022   |   Amser darllen munudau

Bydd Aelodau o’r Senedd yn ymgynnull i dalu teyrnged i’w Mawrhydi Y Frenhines ac i fyfyrio ar ei bywyd hir ac ymroddedig i wasanaeth cyhoeddus.  

Mae’r Llywydd wedi adalw’r Senedd ar gyfer sesiwn arbennig a gaiff ei chynnal am 3.00 o’r gloch y prynhawn, dydd Sul, 11 Medi. Bydd y cynnig o gydymdeimlad yn cael ei ddarlledu’n fyw ar senedd.tv

Dywed y cynnig “Bod y Senedd hon yn mynegi ei thristwch dwys yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines ac yn estyn ei chydymdeimlad diffuant i Ei Fawrhydi Y Brenin ac Aelodau eraill o’r Teulu Brenhinol. Rydym yn cydnabod ymrwymiad parhaus Ei Mawrhydi i wasanaeth a dyletswydd cyhoeddus, gan gynnwys y gefnogaeth a roddodd i nifer o elusennau a sefydliadau yng Nghymru, a’i chysylltiad ar hyd ei hoes â Chymru a’i phobl.”

Mae holl fusnes a digwyddiadau eraill y Senedd wedi’u gohirio yn ystod y cyfnod o alaru cenedlaethol, ac mae’r adeilad ar gau i’r cyhoedd nes bod yr Angladd Gwladol wedi’i gynnal.  

Mae’r baneri wedi eu hanner gostwng y tu allan i holl adeiladau’r Senedd, yng Nghaerdydd ac ym Mae Colwyn.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau yn ystod y cyfnod o alaru cenedlaethol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.