Addysg Rhyw a Chydberthynas (SRE) Statudol i bob Ysgol a Sefydliad Addysgol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 29/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2015

​Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud SRE yn bwnc statudol yn y cwricwlwm i bob ysgol a sefydliad addysgol yng Nghymru. Rydym yn cyflwyno'r ddeiseb hon ar ran defnyddwyr gwasanaethau'r prosiect ABFABB a Fforwm Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) Pen-y-bont ar Ogwr. Ar hyn o bryd, mae SRE yn cael ei darparu fel rhan o Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh). Mae'r ddarpariaeth yn anghyson, ac yn aml nid yw'n cynnwys perthnasoedd LGBT. Dengys tystiolaeth nad yw 85% o bobl ifanc yn cael eu haddysgu am agweddau biolegol a chorfforol ar berthnasoedd o'r un rhyw. Dengys y dystiolaeth hefyd mai dim ond 22% o bobl ifanc sy'n trafod materion LBG mewn dosbarthiadau SRE (Stonewall Cymru, 2012). Byddai darparu SRE mewn modd cynhwysol yn ehangu ymwybyddiaeth o deuluoedd, perthnasoedd a theimladau gwahanol. Yn y pen draw, byddai'n cyfrannu at y broses o fynd i'r afael â bwlio ac iaith homoffobig, trawsffobig a deuffobig mewn ysgolion. Byddai hefyd yn creu amgylchedd gwaith mwy tryloyw i athrawon a phob aelod o staff.
Yr unig fodd o sicrhau darpariaeth gynhwysol yw rhoi statws statudol i SRE ledled Cymru.

Rydym yn cynnig y dylai statws statudol gynnwys:

• Elfen orfodol i'r pwnc a fyddai'n sicrhau bod y cam hwn yn cael ei weithredu.
• Darpariaeth sy'n gynhwysol ac yn briodol o ran oed, gyda disgwyliadau dysgu penodol ar gyfer pob cam dilynol.
• Rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ar gyfer athrawon a phob aelod o staff.
• Gwybodaeth am rywioldeb a hunaniaeth o ran rhywedd; er bod y rhain yn wahanol, byddai ehangu ymwybyddiaeth am bob math o berthynas gadarnhaol o oedran cynnar o fudd i bob plentyn, waeth beth yw ei hunaniaeth neu ei rywioldeb.