Adeilad arloesol newydd yn gartref i’r Cynulliad Cenedlaethol yn Eisteddfod yr Urdd
Bydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru adeilad arloesol newydd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llandudno eleni, sef stondin chwyddadwy unigryw. Dyma’r tro cyntaf i’r cynllun newydd cyffrous hwn gael ei ddefnyddio yn yr Eisteddfod a bydd yn sicrhau y bydd y Cynulliad yn amlwg ar y maes.
Bydd y gweithgareddau eleni’n canolbwyntio ar ymgysylltu â phobl ac adlewyrchu’r newidiadau i waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dilyn pasio Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Ein nod yw rhoi gwybodaeth i aelodau’r cyhoedd, nid yn unig i esbonio pwerau newydd y Cynulliad, ond yn bwysicach efallai, sut y bydd y pwerau hynny’n effeithio ar fywydau pobl Cymru.
Bydd cyfleoedd i ymwelwyr gael dweud eu dweud ar gynnig i hyrwyddo bwyta’n iach mewn ysgolion, ac ar gydsyniad tybiedig i roi organau. Os ydych chi am gael lleisio eich barn, ewch i’r bwth fideo i gyflwyno eich sylwadau, eich teimladau a’ch safbwyntiau. Hefyd bydd gwahoddiad i blant ddarlunio’r Gymru yr hoffent hwy ei gweld yn y dyfodol yn y gystadleuaeth ‘Fy Nghymru i’ a chymryd rhan mewn gweithdai drama a gweithgareddau a gemau eraill.
Dywedodd Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC: “Gydag Eisteddfod yr Urdd cawn gychwyn ar ein tymor digwyddiadau’r haf ac ‘rwyf wrth fy modd bod gennym adeilad newydd arloesol i groesawu ymwelwyr iddo. Mae Eisteddfod yr Urdd yn benodol yn rhoi cyfle delfrydol i ni ymgysylltu â phlant a phobl ifanc Cymru ac edrychaf ymlaen at weld nifer ohonynt yn stondin y Cynulliad i sgwrsio â hwy, ac i dderbyn adborth ganddynt.”