Adolygu busnes y Cynulliad er mwyn blaenoriaethu COVID-19

Cyhoeddwyd 17/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

Meddai llefarydd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

“Mae Pwyllgor Busnes y Cynulliad wedi penderfynu am y tro atal holl fusnes nad yw’n allweddol. Bydd adeilad y Senedd hefyd yn cau i bob ymwelydd ar unwaith. Bydd yr holl drafodion ar gael i'r cyhoedd yn fyw ar-lein ar Senedd.TV. Gwnaed y penderfyniad i gau'r Senedd i bob ymwelydd er mwyn amddiffyn y cyhoedd, staff ac aelodau yn unol â'r canllawiau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

“Mae’r Cyfarfod Llawn heddiw wedi’i ddiwygio er mwyn blaenoriaethu datganiadau Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â’r datblygiadau diweddaraf ynghylch sefyllfa COVID-19. Bydd Cwestiynau’r Prif Weinidog yn mynd yn eu blaen, ac yna Datganiad Busnes ac yna tri datganiad 60 munud a gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething; Y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates; a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

“Mae Pwyllgorau’r Cynulliad yn adolygu eu gweithgaredd ac yn diweddaru amserlenni er mwyn blaenoriaethu eu gwaith.

“Mae'r Cynulliad yn monitro'r sefyllfa'n agos, a bydd yr holl benderfyniadau a gweithrediadau yn parhau i gael eu hadolygu yn unol ag unrhyw ganllawiau wedi'u diweddaru gan Lywodraeth Cymru."