Adroddiad Pwyllgor yn cadarnhau bod gan y Cynulliad Cenedlaethol ymagwedd dryloyw ac agored tuag at lobïo
2 Mai 2013
Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi croesawu adroddiad pwyllgor ar lobïo.
Roedd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cydnabod bod gan y Cynulliad eisoes systemau cadarn i sicrhau ei fod yn dryloyw ac yn agored wrth ymdrin â sefydliadau allanol ac unigolion.
Llynedd, gofynnodd y Llywydd i'r Pwyllgor edrych ar y mater o lobïo yn y Cynulliad, ac ar a oedd angen newidiadau er mwyn sicrhau bod y system yn fwy tryloyw.
Mae'r Pwyllgor wedi argymell cryfhau'r canllawiau ar gyfer Aelodau ac i weithredu grwpiau trawsbleidiol, ond roedd yn teimlo bod y system eisoes yn ddigon cadarn fel nad oes angen rhagor o ddeddfwriaeth.
Ysgrifennodd y Llywydd at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac at Swyddfa'r Cabinet, yn mynnu y dylai Aelodau'r Cynulliad fod yn gyfrifol am wneud penderfyniadau am drefniadau llywodraethu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol.
Doedd hi ddim am i'r Cynulliad gael ei gynnwys mewn unrhyw ddeddfwriaeth o San Steffan yn y dyfodol gan nad yw Cymru'n wynebu'r un materion, a'r enw drwg, ag sydd gan Senedd y DU, o ran gallu sefydliadau allanol i ymwneud â'r Aelodau.
Dywedodd y Llywydd, “Rwy' wastad wedi bod o'r farn y dylai'r Cynulliad wneud penderfyniadau ar y materion hyn, ac nad ydym ni'n wynebu'r un math o faterion negyddol ynghylch cael mynediad at aelodau etholedig ag y mae San Steffan yn eu hwynebu.
“Dyna'r rheswm y gofynnais i gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gynnal ymchwiliad i system lywodraethu bresennol y Cynulliad o ran lobïo.
“Mae'r Pwyllgor wedi cadarnhau'n llawn fod y dull hwn o weithio yn ddilys ac mae'n cydnabod bod systemau cadarn a thryloyw eisoes yn bod i lywodraethu perthynas Aelodau'r Cynulliad â sefydliadau allanol, ond na ddylem ni fyth fod yn hunanfodlon.
“Er nad oes gan y pwyllgor gofrestr o lobiwyr, rwy' o'r farn bod yr argymhellion yn pwysleisio bod y strwythurau yn gadarn ac yn briodol.
“Felly, wrth i San Steffan osgoi ateb ar y mater o lobïo a thryloywder mewn bywyd cyhoeddus, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gweithredu i sicrhau bod bod yn agored wrth wraidd y modd y mae'n gwneud busnes.”