Adroddiad y Pwyllgor Archwilio'n galw am gamau i annog pobl i ymweld â chefn gwlad Cymru'n fwy aml

Cyhoeddwyd 21/03/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad y Pwyllgor Archwilio'n galw am gamau i annog pobl i ymweld â chefn gwlad Cymru'n fwy aml

Mae ymdrechion Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff eraill i wella mynediad i gefn gwlad wedi bod yn llwyddiannus, yn ôl adroddiad newydd gan y Pwyllgor Archwilio. Fodd bynnag, mae'n rhaid goresgyn nifer o rwystrau er mwyn annog rhagor o bobl, yn enwedig pobl o grwpiau difreintiedig, i ymweld â chefn gwlad a'i ddefnyddio'n amlach. Daeth y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy i rym yng Nghymru ym mis Mai 2005. Rhoddodd hawl i'r cyhoedd gael mynediad i gefn gwlad agored, gan gynyddu'r gyfran o gefn gwlad y mae gan y cyhoedd hawl i gael mynediad iddo i tua 21 y cant.  Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad brosiect y llynedd i wella mynediad y cyhoedd i arfordir Cymru.     Yn sgil ei ymchwiliad i fynediad i gefn gwlad daeth y Pwyllgor Archwilio i'r casgliad bod Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r awdurdodau mynediad lleol wedi gweithredu'r ddeddfwriaeth newydd yn effeithiol ac mewn pryd. Bu hyn yn gryn orchest, yn enwedig o gofio i'r cyfnod paratoi cynnar gyd-daro ag argyfwng clwy'r traed a'r genau.   Fodd bynnag, darganfu'r Pwyllgor bod rhai rhwystrau heb eu goresgyn. Er enghraifft, mae angen codi ymwybyddiaeth leol o'r manteision sydd ynghlwm wrth ehangu mynediad i gefn gwlad, ac mae angen gwella cyflwr hawliau tramwy'r cyhoedd. Mae hefyd tystiolaeth glir bod rhai pobl mewn grwpiau sydd mewn perygl o gael eu hallgáu'n gymdeithasol (fel pobl anabl, aelodau o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl sy'n byw mewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf) yn ymweld â chefn gwlad yn llawer llai aml na gweddill y boblogaeth.   Mae adroddiad y Pwyllgor yn cynnig nifer o argymhellion, yn cynnwys cyfathrebu'n fwy effeithiol â grwpiau difreintiedig er mwyn ei wneud yn haws iddynt gael mynediad i gefn gwlad. Mae'r adroddiad hefyd yn argymell adolygu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy'r awdurdodau mynediad lleol a gwneud trefniadau pendant i fonitro sut y cânt eu gweithredu.   Dywedodd Janet Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Mae'r ddeddfwriaeth hawliau tramwy wedi’i gweithredu'n llwyddiannus, ac mae llawer o waith wedi’i wneud o ran gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad. Fodd bynnag, mae mwy o waith i'w wneud, yn enwedig o ran sicrhau bod grwpiau difreintiedig, yn cynnwys pobl anabl, yn cael mynediad cyfartal ynghyd â'r holl fanteision o ran iechyd a lles sy'n deillio ohono.”