Morwellt

Morwellt

‘Wedi dyddio’ ac ‘yn brin o dystiolaeth’: Adroddiad y Senedd yn beirniadu cynllun morol Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 22/02/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/02/2022   |   Amser darllen munudau

Mae adroddiad newydd gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru ei chynllun ar gyfer ardaloedd morol Cymru, sy’n ‘brin o dystiolaeth’ ac ‘wedi dyddio’.

Mae’r adroddiad, sy’n ymdrin â chadwraeth yn ogystal ag ynni adnewyddadwy, yn dadlau bod cael y cydbwysedd cywir rhwng y ddau faes yn hollbwysig er mwyn osgoi sefyllfa lle mae datblygiadau ynni morol yn effeithio’n negyddol ar ein hecosystemau.

Mae’r Pwyllgor yn cwestiynu a all y Cynllun Morol Cenedlaethol presennol gyflawni hyn ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu dadansoddiad allanol o’r Cynllun, yn enwedig o ystyried y twf disgwyliedig mewn ynni adnewyddadwy morol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i gefnogi’r broses o ddatblygu Cymru yn wlad sero net.

Dim ond yn 2019 y mabwysiadwyd y Cynllun, sy’n nodi dull hirdymor Llywodraeth Cymru o ddatblygu’r amgylchedd morol, ond mae sefydliadau amgylcheddol wedi’i feirniadu am beidio â gwneud digon i warchod ecosystemau morol.

Edrychodd yr ymchwiliad hefyd ar reolaeth Llywodraeth Cymru o safleoedd cadwraeth morol (a elwir yn Ardaloedd Morol Gwarchodedig). Er rhwystredigaeth y Pwyllgor, ni chanfu unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod amgylchiadau wedi gwella dros y pedair blynedd diwethaf, gydag arbenigwyr morol yn tystio i’r ymchwiliad y bu blynyddoedd o ddiffyg gweithredu. 

Dywedodd Llyr Gruffydd, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, “Mae gan Gymru dros 2,000km o arfordir ac mae ein hamgylchedd morol yn gartref i rai o’r cynefinoedd a rhywogaethau mwyaf amrywiol yn fiolegol yn Ewrop. Mae’r arfordir hwn hefyd yn darparu cyfleoedd ynni morol enfawr, gyda chapasiti cynhyrchu sy’n ddigon sylweddol i helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau sero net.

“Mae polisi morol presennol Llywodraeth Cymru wedi dyddio ac yn brin o’r dystiolaeth sydd ei hangen i greu polisi effeithiol yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Mae cydbwysedd bregus rhwng manteisio ar adnoddau morol Cymru – tonnau, gwyntoedd a llanw – tra’n gwarchod a gwella ein hecosystemau ar yr un pryd. Yn anffodus, os na fydd Llywodraeth Cymru yn dilyn ein hargymhellion, gallem fod mewn perygl gwirioneddol o gael y cydbwysedd hwnnw’n anghywir.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.