Graddio

Graddio

Adroddiad y Senedd yn rhoi sêl bendith ar greu corff cyhoeddus addysg uwch newydd

Cyhoeddwyd 10/03/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/03/2022   |   Amser darllen munudau

Mae adroddiad gan y Senedd wedi cefnogi Bil Llywodraeth Cymru a fydd yn arwain at un o’r prosesau ad-drefnu mwyaf yn y strwythurau cyllido a rheoleiddio mewn addysg ôl-orfodol yng Nghymru ers datganoli.

Nod y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil yw dwyn ynghyd yr holl waith rheoleiddio a chyllid ar gyfer addysg ôl-16 o dan un corff; gan gynnwys holl brifysgolion Cymru, colegau Addysg Bellach a cholegau cymunedol. Bydd hyn yn creu corff cyhoeddus a fydd yr ail fwyaf yng Nghymru y tu allan i Lywodraeth Cymru ac yn ail i’r GIG.

Bydd y Bil, na chaiff ei roi ar waith yn llawn tan 2025, yn diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac yn creu un sefydliad a fydd hefyd yn ennill pwerau ychwanegol sydd gan Weinidogion Cymru ar hyn o bryd.  Nod y newidiadau hyn yw gwneud yr opsiynau ar gyfer dysgu gydol oes yng Nghymru yn llawer cliriach a symlach i'w dilyn.

Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn dadlau bod pethau ychwanegol o hyd y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru eu gwneud i sicrhau llwyddiant yr ad-drefnu hwn.

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod cynrychiolaeth y dysgwyr a’r gweithwyr ar y bwrdd, a fydd yn goruchwylio’r corff sydd newydd ei greu, yn cael ei chryfhau. Mae'r Pwyllgor yn galw am gynnydd yn y nifer lleiaf o gynrychiolwyr, ac i'r cynrychiolwyr hyn gael hawliau pleidleisio llawn a fydd yn eu galluogi i ddylanwadu’n uniongyrchol ar benderfyniadau'r sefydliad newydd.

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylai Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, gryfhau’r ddyletswydd ar y sefydliad newydd i hyrwyddo addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg i adlewyrchu’r uchelgais hirsefydlog o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Dywed y Pwyllgor fod yn rhaid i’r ddyletswydd ar y sefydliad newydd fod yn gryfach na’r geiriad presennol sydd ond yn datgan bod yn rhaid iddo ‘ateb galw rhesymol’ am ddarpariaeth Gymraeg.

Dywedodd Jayne Bryant AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; “Rydym yn falch o gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn ac rydym yn argymell bod y Senedd yn cytuno arnynt.

“Mae gwell cynrychiolaeth o blith dysgwyr a gweithwyr o ran llywodraethu’r sefydliad newydd hwn yn argymhelliad clir yr ydym yn gobeithio fydd yn cael sylw wrth i’r Bil fynd drwy’r Senedd.  Rydym yn edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog am sut y mae’n bwriadu ymgorffori ein hargymhellion yn y Bil cyn iddo ddod yn gyfraith.

“Fel Pwyllgor, byddwn yn ystyried y gwelliannau a gyflwynir i’r Bil yn y cam nesaf hwn ac yn parhau i gadw llygad ar y broses o weithredu’r Bil a sut y bydd y sector yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sylweddol y mae’n eu hwynebu dros y blynyddoedd nesaf."