Aelod Cynulliad yn cadeirio seminar allweddol wrth i’r trafodaethau ynglŷn â Strategaeth Lisbon barhau

Cyhoeddwyd 06/10/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelod Cynulliad yn cadeirio seminar allweddol wrth i’r trafodaethau ynglŷn â Strategaeth Lisbon barhau

Bydd Christine Chapman AC yn cadeirio seminar allweddol heddiw (ddydd Mawrth 6 Hydref) ym Mrwsel, wrth i’r trafodaethau ynglyn â dyfodol Strategaeth Lisbon barhau.

Cynhelir y seminar wrth i oes 10 mlynedd Strategaeth Lisbon, un o brif strategaethau’r UE – y cynllun gweithredol ar gyfer twf economaidd yr UE – ddod i ben ac wrth i strategaeth olynol gael ei thrafod.

Er mwyn ehangu’r ddadl am ddyfodol y strategaeth, lansiodd Pwyllgor y Rhanbarthau ymgynghoriad ymysg rhanbarthau a dinasoedd Ewrop. Bydd y seminar heddiw, y bydd dros 360 o bobl o 22 gwlad yn ei fynychu, yn cyflwyno’r canlyniadau.

Bydd y seminar heddiw yn garreg filltir bwysig yn y broses drafod ac yn bresennol hefyd fydd Cecilia Malmstrom, Gweinidog dros Faterion Ewropeaidd Sweden; Pawel Samecki, Comisiynydd ar gyfer Polisi Rhanbarthol y Comisiwn Ewropeaidd; Pervenche Beres, Aelod o Senedd Ewrop a Chadeirydd Pwyllgor Gwaith a Materion Cymdeithasol Senedd Ewrop; a Javier Valles Liberal, Cyfarwyddwr Swyddfa Economaidd Prif Weinidog Sbaen.

O’r cychwyn cyntaf, mae Mrs Chapman wedi chwarae rhan allweddol yn y trafodaethau ar ddyfodol y strategaeth.  

Ym mis Chwefror, dewiswyd hi i fod yn rapporteur ar y pwnc i Bwyllgor y Rhanbarthau - i sicrhau bod cynrychiolwyr llywodraeth leol a rhanbarthol yn cael dweud eu dweud cyn i benaethiaid gwladwriaethau a llywodraethau’r UE (gan gynnwys Prif Weinidog y DU) gyfarfod yn ystod gwanwyn 2010 i ddod i gytundeb ar ddyfodol y strategaeth.

“Rwyf yn falch o fod yma heddiw i drafod canlyniadau’r ymgynghoriad ymysg rhanbarthau a dinasoedd Ewrop ar ddyfodol Strategaeth Lisbon,” dywedodd Christine Chapman AC.

“Fel rapporteur ar gyfer Pwyllgor y Rhanbarthau, drafftiais adroddiad ar y pwnc yn ddiweddar ac roedd yn bosibl i mi gynnwys canlyniadau’r ymgynghoriad ynddo.

“Credaf fod consensws cryf y dylid cael strategaeth i olynu Strategaeth Lisbon a’i bod yn dod â gwerth ychwanegol ar lefel yr UE. Fodd bynnag, credaf hefyd fod mwyafrif cryf o blaid sicrhau bod yn rhaid i’r strategaeth yn y dyfodol fod yn wahanol, ac nad parhau ar yr un llwybr yw’r dewis cywir ar gyfer Ewrop”.

Mae ei hadroddiad yn cynnig ‘strategaeth gynaliadwy i Ewrop’ - i ystyried y lefelau o anghydraddoldeb a thlodi sy’n tyfu ledled Ewrop. Fe’i mabwysiadwyd eisoes gan Gomisiwn Polisi Economaidd a Chymdeithasol Pwyllgor y Rhanbarthau a disgwylir i holl aelodau’r pwyllgor roi cefnogaeth ffurfiol iddo pan aiff o flaen sesiwn o’r cyfarfod llawn ym Mrwsel ym mis Rhagfyr.

Pwyllgor y Rhanbarthau

Caiff tua dwy ran o dair o ddeddfwriaeth yr UE ei rhoi ar waith gan awdurdodau lleol a rhanbarthol yn yr Aelod-wladwriaethau. Cafodd Pwyllgor y Rhanbarthau ei sefydlu ym 1994 i roi llais i gynrychiolwyr llywodraeth leol o ran cynnwys y cyfreithiau hyn. Mae Pwyllgor y Rhanbarthau yn trefnu pum cyfarfod llawn y flwyddyn, lle mae ei 344 aelod yn pleidleisio ar ymatebion a gyhoeddwyd i ddeddfwriaeth arfaethedig. O ran y Comisiwn Ewropeaidd, sy’n cychwyn cyfreithiau’r UE, a Chyngor y Gweinidogion, sy’n penderfynu ar gynnwys terfynol y ddeddfwriaeth (ar y cyd â’r Senedd Ewropeaidd, fel arfer), mae gorfodaeth arno i ymgynghori â Phwyllgor y Rhanbarthau ar nifer eang o feysydd polisi, gan gynnwys yr amgylchedd, cyflogaeth a thrafnidiaeth. Bydd Cytuniad Lisbon yn cryfhau safle Pwyllgor y Rhanbarthau ymhellach. Yn y dyfodol, rhaid i’r Senedd Ewropeaidd ymgynghori â Phwyllgor y Rhanbarthau ar bob mater sy’n bwysig i’r rhanbarthau a’r bwrdeistrefi. Hefyd, gall y Pwyllgor apelio i Lys Cyfiawnder yr UE os caiff ei hawliau eu tresbasu neu os yw’n credu bod un o gyfreithiau’r UE yn torri’r egwyddor o sybsidiaredd neu’n methu â pharchu pwerau rhanbarthol neu leol.  

Ceir gwybodaeth bellach ar wefan Pwyllgor y Rhanbarthau yn: www.cor.europa.eu. (nid yw’r dudalen hon ar gael yn Gymraeg)