Aelodau’n parhau â’u hymchwiliad i TB mewn gwartheg

Cyhoeddwyd 14/09/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’n parhau â’u hymchwiliad i TB mewn gwartheg

Bydd Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad yn parhau â’i ymchwiliad i TB mewn gwartheg yn ei gyfarfod yn y Senedd ar 20 Medi. Bydd yr Aelodau’n clywed tystiolaeth gan y Grwp Gwyddonol Annibynnol a gadeiriwyd gan yr Athro John Bourne. Cyhoeddwyd adroddiad terfynol y Grwp, Bovine TB: The Scientific Evidence, ym mis Mehefin eleni. Bydd RSPCA Cymru a’r Ymddiriedolaeth Moch Daear hefyd yn rhoi tystiolaeth yn y cyfarfod. Dywedodd Alun Davies AC, Cadeirydd yr Is-bwyllgor: “Mae’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn mynd ati ar fyrder i ailedrych ar TB mewn gwartheg yng ngoleuni’r adroddiad diweddar. Mae’n amlwg bod angen parhau â’r ymdrechion i fynd i’r afael â’r clwy ac rwy’n mawr obeithio y gallwn gyfrannu at y gwaith. Rwy’n edrych ymlaen at holi’r Athro Bourne am adroddiad y Grwp Gwyddonol Annibynnol ac at glywed tystiolaeth y ddau sefydliad gwirfoddol.” Cynhelir y cyfarfod am 9.45am ddydd Iau 20 Medi yn Ystafell Bwyllgora 3 yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Manylion llawn am y cyfarfod a’r ymchwiliad