Aelodau’r Cynulliad i drafod cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog

Cyhoeddwyd 24/01/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’r Cynulliad i drafod cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog

24 Ionawr 2012

Bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog yn y ddadl gan Aelodau unigol ddiweddaraf a gaiff ei chynnal yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mercher (25 Ionawr).

Mae’r cynnig, a gyflwynwyd gan Simon Thomas AC, Mark Drakeford AC, Mark Isherwood AC a Aled Roberts AC, yn galw ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau’r trydydd sector “i weithio gyda’i gilydd cymaint ag y bo modd i gynnig dewisiadau hyfyw eraill yn lle cwmnïau o’r fath er mwyn tynnu sylw dinasyddion at gost go iawn y benthyciadau a gynigir.”

Mae hefyd yn gofyn i Aelodau nodi’r doreth o gwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog sydd ar waith yng Nghymru, y cyfraddau llog uchel y mae nifer o gwmnïau o'r fath yn eu codi a’r potensial i fenthyca o’r fath greu dyledion difrifol ymysg ein cymunedau tlotaf.

“Fel sy’n wir o bob cynnig a ddewisir ar gyfer dadleuon gan Aelodau unigol, cyflwynwyd y ddadl hon gyda chefnogaeth pob plaid,” meddai Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Mae’r gefnogaeth a fynegwyd gand 24 o Aelodau’r Cynulliad o bob plaid ac o bob rhan o Gymru yn dangos y pryder y mae’r mater hwn yn ei achosi.

“Un o’r prif bethau a wnaeth fy ysgogi i gyflwyno dadleuon gan Aelodau unigol oedd i roi modd i Aelodau godi materion pwysig sy’n effeithio ar eu hetholwyr, a’u dwyn i sylw’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Felly, rwy’n falch iawn bod Aelodau’n cymryd mantais o’r cyfle hwn.”

Dywedodd Simon Thomas AC, yr Aelod dros Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Rwy’n bles ein bod yn gallu trafod y mater hwn yn y Senedd a galw am fwy o weithredu gan gyrff cyhoeddusi fynd i’r afael a’r mater hwn.

“Mae llawer ohonom yn ei chael yn fwyfwy anodd i ddwyn dau ben llinyn ynghyd a dod o hyd i gredyd. Gorfodir mwy a mwy o bobl i droi i ‘fenthycwyr dirwnod cyflog’ neu fenthycwyr tymor byr.

“Mae hysbysebion y cwmnïau benthyca manteisgar hyn i’w gweld ar y teledu bob dydd. Maent yn ddiegwyddor yn y modd y maent yn targedu pobl sy’n agored i niwed y mae angen cefnogaeth arnynt yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn.